Bydd Cymru yn chwarae ei tair gêm gartref yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref, gan gynnwys y gêm yn erbyn Lloegr, ym Mharc y Scarlets.

Roedd Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi cyhoeddi y byddai gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Cymru yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn (Hydref 31) a’r ornest yn erbyn Georgia yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ar Dachwedd 21 yn cael ei chynnal ym Mharc y Scarlets.

Nid yw Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar gael ar hyn o bryd gan nad yw’n barod ar ôl cael ei ddefnyddio fel ysbyty maes.

“Rydym yn gwybod y bydd y genedl gyda ni mewn ysbryd ym Mharc y Scarlets, os nad mewn person, ac rydym yn edrych ymlaen at y diwrnod lle byddwn yn gallu ymgynnull unwaith eto mewn amgylchiadau mwy cyfarwydd yn Stadiwm y Principality,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips.

Gemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref

Rownd un

Iwerddon v Cymru, Tachwedd 13, 19:00

Yr Eidal v Yr Alban, Tachwedd 14, 12:45

Lloegr v Georgia, Tachwedd 14, 15:00

Ffrainc v Fiji, Tachwedd 15, amser i’w gadarnhau

Rownd dau

Yr Eidal v Fiji, Tachwedd 21 , 12:45

Lloegr v Iwerddon, v21, 15:00

Cymru v Georgia, Tachwedd 21, 17:15

Yr Alban v Ffrainc, Tachwedd 22, 15:00

Rownd tri

Yr Alban v Fiji, Tachwedd 28, 13:45

Cymru v Lloegr, Tachwedd 28, 16:00

Ffrainc v Yr Eidal, Tachwedd 28, 20:00

Iwerddon v Georgia, Tachwedd 29, 14:00

Penwythnos y Rowndiau Terfynol

Georgia v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 12:00

Iwerddon v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 14:15

Cymru v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 16:45

Lloegr v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 14:00