Mae maes rygbi rhyngwladol Cymru am gael ei droi yn ysbyty dros dro a fydd yn darparu tua 2,000 o welyau ychwanegol i gleifion coronafeirws.
Mae Stadiwm Principality wedi cael ei gynnig i’r Gwasanaeth Iechyd rhag ofn y bydd ysbytai yn ardal Caerdydd yn cael eu llethu gan gleifion Covid-19.
Mae clinigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda rheolwyr y stadiwm a chontractwyr arbenigol i greu’r cyfleuster newydd.
Meddai Len Richards, prif weithredwr y Bwrdd Iechyd:
“Mae’n anodd, wrth edrych ar y ffigurau, amgyffred maint a graddfa’r dasg sy’n ein hwynebu ni yn y Gwasanaeth Iechyd.
“Dw i’n deall y pryder y bydd hyn yn ei achosi. Dw i’n gobeithio’n arw na fyddwn ni angen defnyddio’r holl capasiti ond mae’n llawer gwell bod wedi datblygu cynlluniau seilieidig ar y dystiolaeth wyddonol a’r modelu gan arbenigwyr.
“Fe fydd yr ysbyty dros dro yn ein galluogi ni ryddhau lle yn ein hysbytai eraill fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau i gleifion sydd â chyflyrau iechyd eraill.”
Meddai Vaughan Gething, gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru:
“Mae byrddau iechyd yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i gymryd pob cam posibl i baratoi Cymru ar gyfer y coronafeirws, ac mae hynny’n golygu paratoi ar gyfer y senario waethaf.
“Mae byrddau iechyd ledled Cymru yn gweithio’n galed i fod yn barod i edrych ar ôl pobl sy’n mynd yn sâl, ac yn edrych ar leoedd fel Stadiwm Principality i roi lle i welyau ysbyty a chymunedol yn yr wythnosau nesaf.”