Mae’r Bathdy Brenhinol wedi dechrau cynhyrchu offer i warchod wynebau gweithwyr iechyd.
Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg eisoes wedi dechrau defnyddio’r misyrnau meddygol (Medical visors), a gobaith y bathdy yw creu miloedd pob dydd yn y pendraw.
Byddan nhw ar gael i feddygon Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn unig i ddechrau. Yn Llantrisant mae’r bathdy, ac fel arfer mae’r safle ond yn creu ceiniogau.
Bellach mae’r sefydliad yn gobeithio cael gafael ar ragor o ddeunydd fel eu bod yn medru parhau â’r gwaith, ac mae Leighton John, y Cyfarwyddwr Gweithredoedd, wedi cynnig apêl.
“Rydym bellach yn datblygu llinell gynhyrchu, ac rydym yn galw ar frys am help i gael gafael ar blastig 1.0mm clir,” meddai. “Mae cyflenwadau’n isel ledled y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn credu bod gan fusnesau’r deunydd, ac rydym yn ymbil arnyn nhw i gysylltu â ni fel ein bod yn medru parhau i gefnogi’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”