Mae twristiaid a hunan-ynyswyr yn dal i anwybyddu rheolau’r Llywodraeth ac yn teithio i gyrchfannau poblogaidd de-orllewin Cymru, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Dros y ddeuddydd ddiwethaf mae’r heddlu wedi gorfod atgoffa mwy na 200 o bobl beth yw ystyr ‘teithio hanfodol’.
“Rydym wedi gorfodi llawer o berchnogion carafanau a camper vans a oedd ar eu ffordd i Sir Benfro i hunan-ynysu i droi’n ôl,” meddai’r Sarjant Hamish Nichols.
“Rydym wedi siarad hefyd gyda dau berchennog maes carafannau sydd wedi bod yn agored ac wedi rhoi cyngor llym iddyn nhw a phob ymwelydd.
“Er bod y mwyafrif o bobl leol wedi cymryd canllawiau’r Llywodraeth o ddifrif, mae gormod o bobl fel pe baen nhw’n meddwl nad yw’r rheolau’n berthnasol iddyn nhw.
“Mae’r neges yn glir – lockdown yw hyn, nid gwyliau, ac mae unrhyw un sy’n anwybyddu’r cyfyngiadau presennol yn wynebu’r perygl o gamau’n cael eu cymryd yn eu herbyn.”
Fe fydd yr heddlu’n parhau i gynnal patrolau o draethau, ardaloedd arfordirol a mannau cyhoeddus eraill dros y penwythnos. Fe fyddan nhw hefyd yn cynyddu gwiriadau ar ffyrdd ar draws ardal yr heddlu.
Rhybudd Heddlu’r Gogledd
Dywed Heddlu’r Gogledd hefyd y byddan nhw’n defnyddio eu pwerau i orfodi os bydd angen.
“Mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac mae cydymffurfio â’r mesurau hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ymbellau cymdeithasol effeithiol,” meddai’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes.
“Mi fydd y grymoedd newydd yn helpu fy mhlismyn wrth ymdrin â’r rheini sydd heb lawn ddeall difrifoldeb y sefyllfa.
“Siomedig oedd gweld cymaint o ymwelwyr yng ngogledd Cymru’n penwythnos diwethaf.
“Ond gyda’r parciau carafanau a’r meysydd gwersylla bellach ar gau, rydym yn gobeithio y gwnaiff pobl barhau i lynu at y negeseuon a chadw draw.
“Rydym yn annog unrhyw un a all fod yn ystyried ymweld â gogledd Cymru i aileddwl.”