Mae rheolwr Cymru Ryan Giggs wedi trafod sut y cafodd ei wneud i deimlo’n “wahanol” fel plentyn oherwydd ei hil gymysg.

Dywedodd hefyd ei fod yn hapus i gefnogi “neges bwysig” mudiad Black Lives Matter mewn gemau rhyngwladol diweddar.

Bu Ryan Giggs yn trafod ei brofiadau gyda chyn chwaraewr rygbi Cymru, Richard Parks, ar gyfer rhaglen ITV Wales, ‘Can I Be Welsh And Black?’

Dywedodd ei fod yn “hynod falch” o’i gefndir hil gymysg, gyda’i dad, y cyn chwaraewr rygbi Danny Wilson, yn ddyn croenddu, a’i fam, Lynne Giggs, yn ddynes wen.

Symudodd y teulu i Fanceinion o Gaerdydd pan oedd Giggs yn saith ar ôl i’w dad ymuno â thîm rygbi’r gynghrair Swinton.

Pan ofynnwyd iddo am y tro cyntaf iddo deimlo’n “wahanol” oherwydd ei hil, dywedodd Ryan Giggs: “Doeddwn i ddim wedi profi dim yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n saith oed, felly alla i ddim cofio llawer cyn hynny. Doedd hi ddim tan i mi symud i Fanceinion.

“Roedd fy nhad yn adnabyddus iawn yn lle’r oeddwn yn byw, oherwydd ei fod yn chwaraewr cystal. Mae’n debyg mai ef oedd y chwaraewr gorau yn y tîm.

“Ac o edrych arna i, fyddech chi ddim yn meddwl bod fy nhad yn ddyn du.

“Ond gan fod pawb yn gwybod pwy oedd fy nhad, a bod fy nhad yn ddyn du, dyna pryd nes i brofi hynny am y tro cyntaf.”

“Dyna pwy ydw i”

Dywedodd Ryan Giggs ei fod yn ystyried ei hun yn “hil gymysg”, ond nad oedd erioed wedi penderfynu “tynnu sylw” at y peth.

“Dyna pwy ydw i,” meddai.

Aeth ymlaen i drafod atgofion o fynd “gartref” i weld ei gefndryd croenddu yn ardal dociau Caerdydd.

“Roedd yn rhyfedd, oherwydd pan oeddwn i ym Manceinion doedd bron dim pobl ddu yn fy ysgol. Dim ond un neu ddau. Ac yn amlwg pan fyddwn i’n mynd yn ôl adref byddwn yn treulio amser gyda teulu fy nhad,” meddai.

“Roeddwn wrth fy modd. Roedd yn beth da i mi brofi’r amrywiaeth yna.”

Bydd Richard Parks: Can I Be Welsh And Black? yn cael ei ddangos ar ITV Wales am 8yh dydd Mawrth (Hydref 27).