Mae Lloyd Williams, mewnwr y Gleision, wedi ymuno â charfan Cymru.

Dydy’r chwaraewr 30 oed heb chwarae i Gymru ers 2016.

Ennillodd e 28 cap dros Gymru rhwng 2011 a 2016, gan chwarae mewn dau Gwpan Rygbi’r Byd.

Rhys Webb, Gareth Davies a Kieran Hardy yw’r mewnwyr eraill yn y garfan.

Er i Undeb Rygbi Cymru gadarnhau nad oes neb wedi’i ryddhau o’r garfan, mae adroddiadau bod y mewnwr Rhys Webb wedi’i anafu.

Ar ôl perfformiad siomedig Cymru ym Mharis y penwythnos diwethaf, bydd Cymru’n wynebu’r Alban ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn (Hydref 31).

Cafodd y gêm yng Nghaerdydd ei gohirio ym mis Mawrth oherwydd y coronafeirws.