Mae’r Gleision wedi colli eu lle ar frig Grŵp B y PRO14 ar ôl colli o 38-27 oddi cartref ym Munster neithiwr (nos Lun, Hydref 26).

Sgoriodd Rey Lee-Lo gais cynta’r gêm ar ôl pedair munud ar ôl i Willis Halaholo a Jarrod Evans gyfuno i greu’r cyfle, ac Evans yn trosi wedyn.

Ond cafodd Halaholo ei anfon i’r cell cosb am faglu Dan Goggin, ac fe wnaeth Munster fanteisio ar ddyn ychwanegol i sicrhau bod Gavin Coombes yn croesi am drosgais.

Sgoriodd Evans gic gosb wedyn ar ôl i James Botham fylchu ar ôl chwarter awr, cyn i Munster fethu â chic at y gôl.

Daeth ail gais i’r wythwr Coombes ar ôl 25 munud ar ôl i John Hodnett gael ei rwystro ar y llinell gais ddwywaith.

Tarodd Evans yn ôl gyda chic gosb i’r Gleision ond daeth cic gosb arall i Munster cyn yr egwyl pan ddaeth tacl uchel gan Jim Botham, a’r Gwyddelod ar y blaen o bedwar pwynt ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ail hanner

Daeth cyfle cynnar i Munster yn yr ail hanner wrth i gic gosb fynd i’r gornel, ac fe hyrddiodd y pac drosodd i roi cais i’r bachwr Kevin O’Byrne o’r lein.

Tarodd y Gleision yn ôl o fewn munudau wrth i Jarrod Evans fylchu, ac fe wnaeth Aled Summerhill ochrgamu’r amddiffyn, a chafodd y cais ei drosi gan Evans i’w gwneud hi’n 24-20.

Ond daeth cyfle arall i Munster yn dilyn cam-drafod gan Rey Lee-Lo, wrth i Jack O’Donoghue groesi am bwynt bonws.

Aeth Halaholo drosodd unwaith eto i’r Gleision cyn i’r eilydd JJ Hanrahan groesi ar ôl 67 munud i gau pen y mwdwl ar noson siomedig i ranbarth y brifddinas.