Mae Steve Cooper, rheolwr pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod yn disgwyl gwneud newidiadau i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Stoke yn Stadiwm Liberty heno (nos Fawrth, Hydref 27).

Dyma’r ail gêm allan o bump i’r Elyrch dros gyfnod o bythefnos, ac mae’n debygol y bydd dyfnder y garfan yn cael ei brofi yn ystod y cyfnod hwn.

Mae disgwyl i Kasey Palmer ddechrau am y tro cyntaf ar ôl methu â chwarae yn erbyn Bristol City, ei riant-glwb, dros y penwythnos.

Ond yn absenoldeb Morgan Gibbs-White, sydd allan am dri mis ar ôl torri ei droed, a George Byers, sydd wedi anafu cesail y forddwyd, fe fydd cyfle i rai o aelodau eraill y garfan serennu yng nghanol y cae.

Mae disgwyl i Jamal Lowe gadw ei le ym mlaen y cae ar ôl sgorio yn erbyn Bristol City, ac i Viktor Gyokeres aros ar y fainc.

Yn y cyfamser, gallai Sam Clucas, cyn-chwaraewr canol cae yr Elyrch, ddychwelyd i dîm Stoke ar ôl gwella o anafiadau i’w goes, wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu degfed pwynt allan o 12 yn eu pedair gêm diwethaf.

‘Gêm anodd’

Dywed Steve Cooper ei fod e’n disgwyl “gêm anodd” heno.

“Bydd Stoke bob amser yn gêm anodd, waeth bynag lle maen nhw wedi bod dros y tymhorau diwethaf,” meddai.

“Maen nhw’n dîm profiadol dros ben a chanddyn nhw adnoddau sylweddol.

“Os ydych chi’n eu dal nhw ar y diwrnod anghywir, maen nhw’n mynd i fod yn anodd iawn.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod ni wedi ymadfer gorau gallwn ni ar ôl y gêm yn erbyn Bristol City a gobeithio y gallwn ni ennill gartref.

“Fe wnawn ni drio rhoi’r cynllun gorau at ei gilydd rydyn ni’n credu y bydd yn sicrhau’r fuddugoliaeth, ac ymrwymo iddo fe.”

Newidiadau

Mae’n dweud nad oedd newidiadau’n rhan o’r cynllun ar gyfer y gêm yn erbyn Bristol City, ond y gallai fod yn rhan o’r cynllun heno.

“Dw i’n credu y bydd [newidiadau] yn hwyr neu’n hwyrach,” meddai.

“Doedd e ddim yn rhan o’r feddylfryd ar gyfer y gêm yn erbyn Bristol City oherwydd roedd diwrnod ychwanegol i orffwys.

“Ond wrth fynd o ddydd Sadwrn i ddydd Mawrth, mae gwir angen i chi fonitro cyflwr corfforol a meddyliol rhai o’r chwaraewyr.

“Mae gyda ni chwaraewyr nad ydyn nhw ar y cae ar hyn o bryd sy’n barod i fynd.

“Mae angen i ni ddefnyddio hynny.”