Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn herio Norwy yn ymgyrch Ewro 2022 am 4.30yp heddiw (dydd Mawrth, Hydref 27).

Mae tîm Jayne Ludlow yn ail yng ngrŵp C, bedwar pwynt y tu ôl i Norwy, sydd hefyd â gêm wrth gefn.

Ond bydd cadw’r ail safle yn allweddol i Gymru, gan y byddai hynny yn ddigon i sicrhau gêm ail gyfle o leiaf.

Dydy merched Cymru erioed wedi cyrraedd twrnament rhyngwladol.

“Mae’n gêm ar y lefel uchaf, felly rydyn ni i gyd yn gyffrous,” meddai Jayne Ludlow wrth BBC Sport Wales.

“Bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau.

“Ond mae fy chwaraewyr eisiau cystadlu ac ennill ein brwydrau ac os llwyddwn ni i wneud hynny, does dim rheswm pam na allwn ni gael canlyniad positif.”

“Mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau” – Sophie Ingle

Sophie Ingle

Dywed Sophie Ingle, capten Cymru, y “bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau er mwyn cael y canlyniad rydym ei angen”.

“Rydan ni gyd wedi gweithio mor galed am gymaint o flynyddoedd, yn bennaf y rhai hyn sydd wedi bod yma ers cymaint, dw i’n meddwl mai cyrraedd twrnament rhyngwladol yw’r peth olaf maen nhw eisiau ei gyflawni, a pha ffordd well i wneud hynny na gyda’r grŵp yma o ferched,” meddai.