Mae’r bowliwr cyflym Marchant de Lange wedi gadael Clwb Criced Morgannwg ac wedi ymuno â Gwlad yr Haf yn sgil newidiadau i reolau Kolpak o ganlyniad i Brexit.

Gyda’r rheolau ar deithio yn Ewrop yn newid yn sgil ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd, mae’r drefn Kolpak – system sy’n galluogi cricedwyr o dramor i chwarae yng Nghymru a Lloegr fel chwaraewyr domestig – yn dod i ben.

Mae hynny’n golygu y bydd rhaid i chwaraewyr adael eu siroedd oni bai bod modd iddyn nhw gael eu cofrestru fel chwaraewyr tramor, ac mae gan Forgannwg ddau yn barod – y capten undydd Colin Ingram a’r Awstraliad Marnus Labuschagne.

Ymunodd Marchant de Lange, sy’n hanu o Dde Affrica, â Morgannwg yn 2017 yn sgil fisa ei wraig ond mae ei statws wedi newid ac mae ei gytundeb wedi cael ei ddileu flwyddyn yn gynnar.

Gyrfa

Mae Marchant de Lange wedi cipio 85 o wicedi dosbarth cyntaf mewn 25 o gemau i Forgannwg, gyda’i ffigurau gorau, 5-62, yn dod yn erbyn Swydd Gaerloyw yn 2018.

Tarodd e ddau hanner canred gyda’r bat, ac fe darodd e’r canred cyflymaf erioed i’r sir mewn gêm dosbarth cyntaf yn erbyn Swydd Northampton ym mis Awst.

Cipiodd e 36 o wicedi mewn 33 o gemau ugain pelawd, a 39 o wicedi mewn 19 o gemau 50 pelawd, gan gynnwys ei ffigurau gorau, 5-49, yn erbyn Hampshire yn 2017.

Ansicrwydd

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn misoedd o ansicrwydd ynghylch statws Marchant de Lange.

Cadarnhaodd ffynhonnell o fewn y clwb wrth golwg360 fis Chwefror eu bod nhw’n ymchwilio i’w statws a bod “ansicrwydd” ynghylch y sefyllfa bryd hynny.

Dywedodd mai dealltwriaeth y clwb oedd y byddai modd gwneud cais iddo chwarae ar sail pasport Ewropeaidd ei wraig, ond nad oedd hi’n glir a oedd e’n gymwys o dan reolau Kolpak.

“Fy ngreddf i yw y bydd e fwy na thebyg yn cwympo i’r categori Kolpak oherwydd, hyd yn oed os oes gan eich gwraig basport Ewropeaidd, dydy hynny ddim o reidrwydd yn rhoi’r hawl i chi gael cyflogaeth yn y wlad,” meddai.

‘Trist dros ben’

“Dw i’n drist dros ben o adael Morgannwg a Gerddi Sophia,” meddai Marchant de Lange.

“Mae gen i atgofion mor felys o’m cyfnod yma, a dw i wedi mwynhau ma’s draw wrth gynrychioli pobol Morgannwg a Chymru.

“Dw i wedi bod wrth fy modd yn byw yng Nghaerdydd, a gobeithio y galla i ddod yn ôl a mwynhau gêm o’r eisteddle yn y dyfodol.”

‘Siomedig’

“Rydym yn siomedig fod cyfnod Marchant gyda Morgannwg wedi dod i ben yn gynnar,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced y sir.

“Mae’r newid yn y rheolau wedi newid y categori y gall e chwarae oddi tano, ac mae’n anffodus fod Marchant yn dioddef yn sgil y newidiadau hyn.

“Mae e bob amser wedi ymroi 100% yn ei ymdrechion dros y sir ac mae e wedi bod yn aelod hynod boblogaidd o’r tîm, ac yn ffefryn ymhlith y staff o amgylch Gerddi Sophia.

“Rydym yn dymuno’n dda iddo fe ar gyfer y dyfodol, ac yn edrych ymlaen at ei weld e’n ôl yng Ngerddi Sophia y tymor nesaf.”

Gwlad yr Haf

Yn y cyfamser, mae Gwlad yr Haf wedi cadarnhau ei fod e wedi ymuno â’r sir ar gytundeb dwy flynedd.

Bydd e ar gael i chwarae ym mhob fformat.

Dywed ei bod yn “fraint enfawr” cael ymuno â “chlwb mor uchelgeisiol a balch”.