Mae Stephen Jones, hyfforddwr ymosod Cymru, wedi dweud wrth golwg360 ei fod e’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Lanelli a pharhau â’r traddodiad o chwarae gemau rhyngwladol yn Nhre’r Sosban.

Treuliodd cyn-faswr Cymru y mwyafrif o’i yrfa yn chwarae i Lanelli a’r Scarlets cyn cyfnod yno’n hyfforddwr.

Bydd Cymru’n wynebu’r Alban ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn, Hydref 31.

Dyma’r tro cyntaf i dîm cyntaf Cymru chwarae gêm ryngwladol yn Llanelli ers 1998.

“Mae’n deimlad gwych mynd nôl i Lanelli, yn amlwg ma’ da fi lot o atgofion cynnes yno,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r ffaith ein bod ni’n mynd yno ar gyfer gêm ryngwladol yn ychwanegu at yr hanes o gemau rhyngwladol sy’n mynd nôl blynydde yno.

“Mae’r chwaraewyr hefyd wrth gwrs yn edrych ymlaen at gael y cyfle i chwarae yno.”

‘Trosglwyddo a gwella’n perfformiad ni’

Ar ôl perfformiad siomedig ym Mharis y penwythnos diwethaf mi fydd pwysau ychwanegol ar Gymru i orffen pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar nodyn uchel.

Er hyn, eglura Stephen Jones ei fod yn hyderus mai Cymru fydd yn fuddugol yn erbyn yr Albanwyr.

“Yn syml iawn, be’ ni’n canolbwyntio arno yw ein bod ni’n trosglwyddo a gwella’n perfformiad ni.

“O safbwynt ymosodol, dim ond 21 o bwyntiau sgorion ni [yn erbyn Ffrainc], ni’n credu oedd ‘na fwy o gyfleoedd i ni sgori.

“Ni mo’yn chwarae gêm gyflymach, dyna’r nod, ac mae rhaid i ni fod yn fwy clyfar yn ardal y gwrthdaro a throsglwyddo hynny i’r gêm yn erbyn yr Alban.

“Dwi’n ffyddiog iawn, os y’n ni’n cael yr agwedd hynny o’n gêm yn iawn, byddwn ni’n ennill.”

Dydy Cymru heb golli yn erbyn yr Alban gartref ers 2002 – Stephen Jones oedd y maswr y diwrnod hwnnw.

‘Gwella ein perfformiad ar y cae’

“Ni’n gwybod sut mae’r Alban mo’yn chwarae, maen nhw’n symud y bêl, yn chwarae’n gyflym ac mae eu gêm ymosodol nhw’n dda,” meddai wedyn.

“Be’ mae’n rhaid i ni wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni ddim yn rhoi lle iddyn nhw chwarae.

“Mae’n rhaid i ni fod yn fwy corfforol gyda’r bêl ac os byddwn ni’n trosglwyddo hynny i’r gêm, fe fyddwn ni ddigon hyderus.”

“Mae’n iawn i ni ddysgu am chwaraewyr newydd, mae’n iawn i ni hefyd siarad ac egluro pethau i’r chwaraewyr, ond mae rhaid i ni nawr drosglwyddo hynny i’r gêm a gwella ein perfformiad ar y cae.”

Daeth cadarnhad ddechrau’r wythnos y bydd tair gêm gartref Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref, gan gynnwys y gêm yn erbyn Lloegr, hefyd yn cael eu cynnal ym Mharc y Scarlets.