Mae manwerthwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i lacio’r rheolau ar brynu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol yn ystod y cyfnod clo dros dro.

Bydd y cyfyngiadau mewn grym tan Dachwedd 9, ond fe fu dryswch ynghylch beth yw nwyddau hanfodol, gyda sawl archfarchnad yn gorfod ymddiheuro am atal cwsmeriaid rhag prynu rhai nwyddau neu gael mynediad i rannau o siopau sydd ynghau.

Mae manwerthwyr yn dweud y dylai cwsmeriaid gael penderfynu beth sy’n hanfodol iddyn nhw ar sail cyfres o arwyddion mewn siopau, ac maen nhw wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Mewn datganiad, dywed CBI Cymru, Consortiwm Manwerthu Cymru a Chymdeithas y Siopau Cyfleustra eu bod nhw’n awyddus i gael sêl bendith y Llywodraeth i’w hargymhellion er mwyn “datrys y dryswch”.

“Byddai’r argymhellion hyn yn golygu nad yw nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol yn cael eu tynnu oddi ar y silffordd nac yn cael eu cau i ffwrdd mewn siopau, ond fod arwyddion mawr yn cael eu gosod o flaen y cynnyrch ac mewn gofodau cyffredin yn hysbysu cwsmeriaid o reoliadau Llywodraeth Cymru a bod ymddiriedaeth yn y cyhoedd yng Nghymru i wneud y penderfyniad cywir,” meddai’r datganiad.

‘Disgresiwn’

Daw’r datganiad ddiwrnod ar ôl i Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ddweud y byddai eglurhad y gallai archfarchnadoedd ddefnyddio disgresiwn wrth werthu cynnyrch nad yw’n hanfodol i gwsmeriaid “mewn angen go iawn”.

Dywedodd ei fod “yn drist iawn” o glywed am drafodaeth ar Twitter lle dywedodd Tesco, ar gam, nad oedd modd iddyn nhw werthu cynnyrch mislif am nad ydyn nhw’n gynnyrch hanfodol.

Diben y rheolau, medd Llywodraeth Cymru, yw cyfyngu ymlediad y coronafeirws a bod yn deg â siopau sy’n gwerthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol sydd wedi gorfod cau eu drysau yn ystod y cyfnod clo dros dro.

Ymhlith yr argymhellion eraill a gafodd eu cyflwyno i’r Llywodraeth roedd:

  • gosod arwyddion o flaen eitemau nad ydyn nhw’n hanfodol
  • defnyddio cyhoeddiadau mewn siopau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn annog pobol i beidio â phrynu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol
  • symud arddangosfeydd yn hyrwyddo cynnyrch nad yw’n hanfodol er mwyn lleihau amserau pori ac osgoi annog pobol i’w prynu

Mwy am y stori hon