Mae gwyddonwyr yng ngwledydd Prydain yn datblygu prawf anadl coronafeirws sy’n rhoi canlyniad “o fewn munud”.

Dywed gwyddonwyr o grŵp Imspex y gallai eu canfyddiadau “wella’r profiad o gymryd prawf coronafeirws yn sylweddol yn ogystal â chwarae rhan yn ailgychwyn yr economi”.

Eglura Emma Brodrick, rheolwr cwmni diagnosteg Imspex yng Nghymru – sy’n cydweithio ar yr ymchwil – fod perygl i bobol wrthod mynd am brawf ceg neu gwrthgyrff arferol gan ei fod yn “anghyfforddus”.

“Rydym yn gyffrous iawn o fod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban, Klinikum Dortmund yn yr Almaen a Phrifysgol Loughborough i ddatblygu prawf anadl sy’n rhoi canlyniadau’n gyflym – o fewn munud”, meddai.

Angen mwy o ddata

Ychwanega Paul Thomas, Athro Gwyddoniaeth Ddadansoddol yn Adran Gemeg Prifysgol Loughborough, fod y canfyddiadau’n dangos beth sy’n bosib, ond fod angen mwy o ddata er mwyn datblygu’r prawf.

“Os yw’n ddibynadwy, mae’n bosib i’r prawf adnabod Covid-19 yn gyflym, a gallai gael ei ddefnyddio mewn adrannau achosion brys neu ofal sylfaenol a fydd yn diogelu staff gofal iechyd, gan wella rheolaeth cleifion a lleihau ymlediad Covid-19.”

Fel rhan o’r ymchwil gychwynnol, cafodd 98 o gleifion eu profi ac roedd gan 31 ohonyn nhw Covid-19.