Mae nifer o Arglwyddi wedi cwestiynu gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar brynu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol yn ystod y cyfnod clo dros dro.

Mae’r gwaharddiad dan y lach wrth i’r Ceidwadwyr rybuddio y gallai beryglu swyddi ar y stryd fawr, tra bod eraill yn cyfeirio at y dryswch o ran y canllawiau.

Fe wnaeth y Farwnes Fox o Fwcle ofyn ai penderfyniad gwyddonol neu wleidyddol yw’r gwaharddiad.

Ychwanegodd wedyn nad oes modd “siopa’n gynnar ar gyfer y Nadolig yn y lle dw i’n dod, ddim os ydyc chi’n Gymry, oherwydd dydych chi ddim yn cael siopa o gwbl, mae’n debyg”.

Dywedodd yr Arglwydd Callanan ei fod “bron iawn yn teimlo’n flin” dros Lywodraeth Cymru, sy’n gorfod “ffeindio’u ffordd drwy’r gwall sydd wedi’i wneud ganddyn nhw eu hunain”.

Trafodaeth

Mae’r Farwnes Altmann wedi gofyn a oes yna drafodaeth ar y gweill rhwng yr adrannau Busnes, Iechyd a Llywodraeth Cymru ynghylch gwerthu nwyddau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol.

Cyfeiriodd hefyd at “y perygl i swyddi’r stryd fawr” o anfon pobol a fyddai wedi siopa mewn siopau i brynu ar y we.

“Dw i’n credu bod y ddynes nobl yn gwneud pwynt pwerus iawn a hoffwn nodi, wrth gwrs, nad oes gennym y cyfyngiadau hyn yn Lloegr – ac ro’n i bron iawn yn teimlo’n flin dros Lywodraeth Cymru ddoe wrth geisio ffeindio’u ffordd trwy’r gwall a gafodd ei achosi ganddyn nhw eu hunain,” meddai’r Arglwydd Callanan.

Mwy am y stori hon