Mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi beirniadu’r Ceidwadwyr Cymreig am geisio defnyddio gwaharddiad dadleuol ar eitemau nad ydynt yn hanfodol i’w mantais – a hynny er mai Aelod Ceidwadol o’r Senedd gododd y mater yn y lle cyntaf.

“Does dim o’i le gyda’r gwrthbleidiau yn dwyn y llywodraeth i gyfrif pan fyddant yn cael rhywbeth o’i le, ond mae’n rhaid i chi fod yn rhesymol wrth wneud hynny”, meddai wrth BBC Cymru.

“Mae’r Ceidwadwyr yn ceisio manteisio ar hyn.”

Dros y penwythnos disgrifiodd Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y gwaharddiad fel “gwallgofrwydd” a galwodd ar y Llywydd Elin Jones i alw aelodau’r Senedd yn ei hôl i drafod yr helynt.

Cyhoeddwyd y gwaharddiad ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn y Senedd ar ôl i Russell George, AoS Ceidwadol, ddweud ei fod yn “annheg” gorfodi manwerthwyr annibynnol i gau tra bod nwyddau tebyg ar werth mewn archfarchnadoedd mawr.

“Wythnos diwethaf, roedd y Ceidwadwyr yn gofyn i’r Llywodraeth i osod gwaharddiad ar nwyddau nad ydynt yn hanfodol mewn archfarchnadoedd, yna ar ôl i’r Llywodraeth wneud hynny maen nhw’n ei beirniadu”, meddai Adam Price.

“Mae’n rhaid craffu ar y llywodraeth mewn ffordd adeiladol ac nid mewn ffordd wleidyddol a allai amharu ar bolisi iechyd cyhoeddus.”

Clip o’r cyfarfod pwyllgor

Er eglurder, dyma’r union glip o’r drafodaeth ar y mater o gyfarfod y Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog ddydd Iau 22 Hydref.

Dylai Llywodraeth Cymru gwympo ar ei bai

Serch hynny, aeth Adam Price ymlaen i bwysleisio y dylai Llywodraeth Cymru gwympo ar ei bai ar y mater.

“Mae gostyngeiddrwydd yn wirioneddol bwysig wrth gyfaddef eich bod wedi ei gael rhywbeth yn anghywir”, meddai.

“Amcan cau siopau nad yw’n hanfodol am y cyfnod yma yw cyfyngu ar nifer y cysylltiadau a lleihau nifer yr achosion ond mae’r neges hynny wedi mynd ar goll yn llwyr.

“Dylent fod wedi pwysleisio o’r dechrau y byddai disgresiwn – ac y byddai synnwyr cyffredin yn caniatáu i rywun sydd angen prynu dillad plant yn gallu gwneud hynny.

“Dylent fod wedi cael y sgyrsiau yma gyda’r sector manwerthu yn gynharach – clywsom gan y gweinidog iechyd bod y Llywodraeth wedi cyfarfod â nhw ddydd Iau – mae hynny’n rhy hwyr.

“Wrth feddwl am ganlyniadau ymarferol y polisi – yr amcan yw achub bywydau, ond mae negeseuon gwael wedi effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn y polisi dros y penwythnos.

“Mae yna deuluoedd ledled Cymru sy’n galaru heddiw – yn y pen draw mae’r clo dros dro yma i achub cannoedd o fywydau.

“Dros y penwythnos fe gollom olwg ar hynny.”

Bu Vaughan Gething yn cynnig rhagor o eglurder am y clo dros dro mewn cynhadledd i’r wasg prynhawn yma.

Bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag archfarchnadoedd heddiw (Hydref 26) i drafod y gwaharddiad.