Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cadarnhau y bydd y rheolau ar brynu nwyddau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol yn cael eu hadolygu yr wythnos nesaf.

Fe ddaw ar ôl i Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod yn galw ar y Llywydd Elin Jones i alw’r Senedd yn ei hôl i drafod yr helynt.

Mae e wedi anfon llythyr ati yn galw am drafodaeth ynghylch y penderfyniad i wahardd gwerthiant nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol fel rhan o gyfyngiadau’r cyfnod clo dros dro sydd mewn grym tan Dachwedd 9.

Mae mwy na 18,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i wneud tro pedol fel bod modd prynu nwyddau fel llyfrau, biniau sbwriel a dillad babanod.

Mae Aelodau o’r Senedd ar wyliau hanner tymor yr hydref ar hyn o bryd.

‘Dicter ledled Cymru’

“Ers i’r prif weinidog ddatgelu y byddai gwerthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol yn cael ei wahardd ym mhob siop yn ystod y cyfnod clo ledled Cymru, fe fu yna ddicter ledled Cymru,” meddai Paul Davies.

“Mae’n wallgofrwydd fod pobol wedi cael eu gwahardd rhag prynu llyfrau, biniau a dillad babanod mewn siopau lleol.

“Efallai nad yw Llywodraeth Lafur Cymru’n meddwl bod yr eitemau hyn yn hanfodol, ond fe fydd barn nifer yn wahanol.

“Mae’r cyfnod clo ledled Cymru’n anghymesur, yn ddiangen ac yn bwrw ein heconomi’n galed.

“Byddai’n well gen i weld pobol yn gallu prynu eitemau mewn siopau yn eu cymunedau sy’n cynnig cyflogaeth i bobol leol na gweld miliynau’n cael eu gwario ar gewri rhyngrwyd ar-lein.

“Mae’r ddeiseb yn galw am derfyn ar y gwaharddiad wedi’i llofnodi gan ddegau o filoedd o bobol ledled Cymru mewn cyfnod byr.

“Mae’n arwydd clir i weinidogion Llafur fod pobol eisiau diddymu’r rheol yma ar unwaith a rhaid i Senedd Cymru gyfarfod i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosib.”