Mae Plaid Werdd Cymru wedi ymrwymo i gefnogi annibyniaeth i Gymru fel “dyhead tymor hir” pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yn y dyfodol.

Fe ddaw yn dilyn cyflwyno gwelliant yn ystod cynhadledd y blaid.

“Pe bai refferendwm ar annibyniaeth i Gymru, mae Plaid Werdd Cymru’n ymrwymo i ymgyrchu o blaid ymwahanu oddi wrth y Deyrnas Unedig,” meddai’r gwelliant.

Yn ôl Emily Durrant, cynghorydd y blaid yn Llangors ac ymgeisydd y blaid yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, mae’n “ddiwrnod enfawr i’r blaid ac yn ddiwrnod pwysig i fi’n bersonol”.

Mae Plaid Werdd Cymru’n rhan o Blaid Werdd Cymru a Lloegr.

‘Dyhead tymor hir’

“Mae’r etholiad y flwyddyn nesaf hefyd yn foment hollbwysig i ddemocratiaeth yng Nghymru,” meddai’r arweinydd Anthony Slaughter yn ei araith.

“Tra bod ethol Senedd newydd Cymru gyda mwy o bwerau’n foment hanesyddol i Gymru, mae’r setliad datganoli cyfan mewn perygl a dan fygythiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n benderfynol o grafu pwerau’n ôl o’r gwledydd datganoledig.

“Fe fydd cipio grym ôl-Brexit yn sgil Bil y Farchnad Fewnol yn tanseilio unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gynnal safonau amgylcheddol a bwyd uchel ac yn bychanu lles Deddf Cenedlaethau’r dyfodol.

“Fel plaid sy’ credu mewn datganoli grym i’r lefel isaf oll, byddai’r Gwyrddion yn y Senedd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthsefyll yr ymosodiad hwn ar ddatganoli.

“Mae Plaid Werdd Cymru’n credu bod annibyniaeth i Gymru’n ddyhead tymor hir.

“Byddwn yn dadlau bod gweithredoedd presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd y dyhead hwnnw’n cael ei wireddu’n hwyr neu’n hwyrach.”