Mae hanes dau safle yng Nghymru’n ymwneud â chaethwasiaeth wedi cael eu datgelu gan ddefnyddio codau QR fel rhan o brosiect technolegol.

Mae modd sganio’r codau ar blasty yn Abertawe ac adfeilion cartref gweinidog yn Sir Ddinbych er mwyn darganfod mwy amdanyn nhw fel rhan o Fis Hanes Du.

Roedd plasty Tŷ Maesteg ar Fynydd Cilfái ar gyrion dinas Abertawe yn gartref i’r barwn Pascoe St Leger Grenfell, un o’r rhai oedd yn bennaf gyfrifol am ddylunio’r ddinas, ond fe gafodd ei adeiladu gan ddefnyddio elw o fasnachu caethweision yn Jamaica.

Derbyniodd e swm mawr o arian pan gafodd caethwasiaeth ei gwahardd yn 1833.

Roedd y Parchedig Benjamin Winston yn byw yng Nghaint pan newidiodd ei enw er mwyn etifeddu ffortiwn ei dad-cu a’i gaethweision yn Dominica.
Symudodd i fyw mewn eiddo o’r enw Bodannerch yn y Rhyl yn ddiweddarach, ac fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach ei fod yn berchen ar 179 o gaethweision.

Mae’r cartref wedi cael ei adfywio erbyn hyn, er i rannau helaeth gael eu dymchwel i greu lle i godi fflatiau.”