Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo o ddifrod troseddol, torri rheolau’r coronafeirws a nifer o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn dilyn digwyddiad yn archfarchnad Tesco ym Mangor.
Bydd Gwilym Owen o Fôn yn mynd gerbron ynadon yng Nghaernarfon ar Dachwedd 24.
Mae fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos unigolyn yn yr archfarchnad yn tynnu gorchuddion plastig oddi ar silffoedd.
Fe ddaw ar ôl i Lywodraeth Cymru wahardd pobol rhag prynu nwyddau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol yn ystod cyfnod clo dros dro fydd yn para tan Dachwedd 9.
Yn ôl y rheolau, rhaid i archfarchnadoedd orchuddio nwyddau nad oes modd eu prynu yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.