Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi amddiffyn y gwaharddiad ar werthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol, gan fynnu na fydd y gwaharddiad yn cael ei wyrdroi.

Fe ddaw yn dilyn cadarnhad y bydd adolygiad o’r sefyllfa yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf, yn dilyn pryderon y Ceidwadwyr Cymreig am y rheolau yn ystod y cyfnod clo dros dro fydd yn para tan Dachwedd 9.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, fe wnaeth Vaughan Gething fynnu na fyddai’r gwaharddiad yn cael ei wyrdroi, ac mae bwriad yr adolygiad yw ceisio egluro’r drefn.

“Rydyn ni’n cynnal adolygiad gyda’r archfarchnadoedd o ddealltwriaeth ac eglurder y polisi oherwydd mae gwahanol rannau wedi cael eu gweithredu’n wahanol,” meddai.

“Yr hyn sy’n rhaid i ni i gyd ei wneud yw cofio pam fod y cyfnod clo dros dro wedi cael ei gyflwyno a chydnabod ei fod yn anodd i lawer o bobol.

“Ond rydyn ni yng nghanol wythnos lle’r ydyn ni eisoes wedi gweld 61 o farwolaethau yma yng Nghymru.

“Ryw fis yn ôl, dim ond chwech o farwolaethau oedd mewn wythnos.

“Felly mae’r coronafeirws yn codi stêm, ac rydyn ni’n gweld mwy o bobol yn colli eu bywydau.”

Cydweithio ag archfarchnadoedd

Dywed Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio â’r archfarchnadoedd i drafod pa eitemau fyddai’n cael eu hystyried yn hanfodol.

Ond mae’n ymddangos bod dryswch o hyd.

“Byddwn ni’n siarad â nhw eto ddydd Llun fel bod pawb yn deall y sefyllfa rydyn ni ynddi er mwyn cael peth eglurder,” meddai.

Eglura fod y gwaharddiad wedi’i gyflwyno er mwyn sicrhau tegwch i fusnesau sydd ynghau ac er mwyn lleihau faint o weithiau y bydd angen i bobol fynd allan yn ystod y cyfnod clo dros dro.

Fe fu pryderon hefyd y gallai mwy o bobol droi at gwmnïau mawr ar-lein fel Amazon yn hytrach na rhoi arian i’r economi leol yn sgil y gwaharddiad.

Ond yn ôl Vaughan Gething, mae gan bron bob cwmni “rywbeth i’w gynnig ar-lein hefyd”.

“Mae gwerthu ar-lein wedi’i ganiatáu oherwydd dydy hynny ddim yn golygu cymysgu [yn gymdeithasol],” meddai.

“Felly dydyn ni ddim wedi cwtogi cyfle pobol i brynu nwyddau mewn unrhyw ffordd, y gweithgarwch ‘yn y cnawd’ sy’n bwysig.”

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i’r gwahaniaeth yn sylwadau Mark Drakeford a Vaughan Gething.

“Yn anffodus, mae anallu a negeseuon cymysg Llywodraeth Lafur Cymru ond yn parhau fore heddiw,” meddai.

“Neithiwr, fe wnaeth y prif weinidog, yn briodol iawn, gyhoeddi ‘adolygiad’ i’w waharddiad draconaidd ar siopa mewn archfarchnadoedd ond o fewn 12 awr, mae ei gydweithwyr wedi ei danseilio drwy gadarnhau y bydd y gwaharddiad yn aros.

“Mae dros 50,000 o bobol ledled Cymru bellach wedi llofnodi’r ddeiseb yn galw am ddileu’r gwaharddiad a dylai gweinidogion wrando ar y cyhoedd.”

Mae’n dweud ymhellach fod yr awgrym ynghylch cyfnod clo arall yn gynnar y flwyddyn nesaf yn destun pryder.

“Byddai strategaeth o gyfnodau clo cenedlaethol bob yn dipyn yn ddinistriol i les corfforol a meddyliol y genedl, yn ogystal ag economi Cymru a miloedd o fywoliaethau.

“Mae angen i’r prif weinidog a’i gydweithwyr ailystyried eu strategaeth ar frys cyn chwalu ymddiriedaeth y cyhoedd yn llwyr.”