Mae Esgob Paisley yn yr Alban wedi rhybuddio bod pobol yn wynebu’r posibilrwydd o gael “Nadolig digidol” ar ôl i un o glinigwyr blaena’r wlad awgrymu y gallai’r gwaharddiad ar gynulliadau mawr o bobol aros am y tro.
Mae’r Esgob John Keenan yn dweud bod cyfyngiadau ar adeg mor bwysig yn y flwyddyn “yn creu’r perygl o ddinistrio pob gobaith”, gan alw am lacio’r cyfyngiadau dros dro.
Mae’n dweud bod yr Athro Jason Leitch, cyfarwyddwr clinigol yr Alban, yn ceisio rheoli disgwyliadau pobol ond nad oes “neb eisiau Nadolig digidol”.
“Mae chwalu disgwyliadau ffals yn un peth, ond does neb eisiau chwalu gobeithion pobol,” meddai mewn erthygl yn y Sunday Times.
Yn hytrach na gwaharddiad llwyr, mae’n awgrymu “torri’r cylch” ar Ddydd Nadolig, gan gymharu sefyllfa o’r fath â chadoediad ar Ddydd Nadolig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Efallai y dylem ystyried ‘torri’r cylch’ ar gyfer y Nadolig,” meddai.
“Codi’r cyfyngiadau ar gynulliadau a dathliadau am 24 awr, toriad yn y rhyfel yn erbyn Covid, yn union fel yr oedi yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar y Ffrynt Orllewinol yn 191, pan wnaeth milwyr Prydain a’r Almaen ollwng eu dryllau a chyfarfod yn Nhir-na-Nog i ddathlu’r Nadolig.
“Oni allem alluogi un diwrnod o normalrwydd yng nghanol ein rhyfel di-baid yn erbyn y feirws?
“Meddyliwch am y gobaith a’r hapusrwydd y byddai hynny’n ei roi.
“Eiliad o lawenydd yng nghanol cymaint o anobaith.”
Rhagofalon
Tra ei fod yn cydnabod y byddai angen cymryd rhagofalon i warchod yr henoed a phobol fregus, mae’n dweud y byddai llacio’r cyfyngiadau’n osgoi “unigrwydd ac anobaith ar yr adeg a ddylai fod yr un hapusaf yn y flwyddyn”.
“Gallai effeithiau Nadolig digalon ac ynysig fod yn ddinistriol i nifer, gan adael gwaddol emosiynol a chymdeithasol na allai’r un brechlyn ei wella,” meddai.
“Mae gwastatu cromlin yr haint wedi bod yn nod ganmoladwy ym mholisi’r llywodraeth eleni.
“Yn hytrach na gwastatu cromlin gobaith, gadewch i ni godi’r ysbryd gyda’r posbilirwydd o Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.”