Mae Plaid Cymru’n galw am ddatrys sefyllfa profi, olrhain, cefnogi ac ynysu ar gyfer y coronafeirws er mwyn osgoi cyfnod clo dros dro arall ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Daw sylwadau Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, ar ôl i Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, awgrymu ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales y gall fod angen cyfnod clo dros dro arall ym mis Ionawr neu Chwefror.

“Mae hynny’n anochel, a dw i’n ofni y bydd yn gwaethygu,” meddai.

“Nid dyma’r cyfnod clo olaf rydyn ni’n debygol o’i weld.

“Dw i’n credu bod y rhagolygon yn y papurau rydyn ni wedi eu cyhoeddi ynghylch ein sefyllfaoedd gwaethaf posib yn dangos ei bod yn debygol y bydd angen i ni gael cyfnod clo dros dro eto yn Ionawr neu Chwefror.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu dangos ein bod ni’n rhesymegol, ein bod ni’n seilio pethau ar dystiolaeth a’n bod ni’n dryloyw.

“Rydyn ni’n ceisio’n gorau i wneud hynny.”

Mae’n dweud bod gwyddonwyr yn disgwyl sawl ton o’r feirws, ac y bydd pob ton yn mynd yn waeth.

Daw ei sylwadau yn dilyn cynnydd o 57% yn nifer y cleifion sydd wedi bod mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty yn sgil y feirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Pryder

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae trafod cyfnod clo dros dro pellach yn “destun pryder”.

“Mae’n destun pryder clywed sôn am gynlluniau ar gyfer cyfnodau clo dros dro yn y dyfodol ar ddechrau’r ailosod hwn,” meddai.

“Pe bai Llywodraeth Cymru’n rhoi mesurau effeithiol yn eu lle dros y bythefnos nesaf, strategaeth newydd ar gyfer y misoedd i ddod, mi ddylai fod yn anelu at osgoi gorfod dychwelyd at y cyfyngiadau cenedlaethol llym hyn.

“Mae cylch parhaus o gloi a datgloi yn ddinistriol i fusnesau ac i unigolion.

“Rhaid i weinidogion ddatrys y materion o ran y system brofi, olrhain, cefnogi ac ynysu er mwyn galluogi’r strategaeth dim Covid sydd newydd ei mabwysiadu gael ei chyflwyno’n llwyddiannus.”