Mae cyfyngiadau coronafeirws wedi’u cyflwyno am o leiaf fis yn yr Eidal eto yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion yn y wlad.

Mae gofyn i bobol wisgo mygydau yn yr awyr agored, tra bod sinemâu, campfeydd a phyllau nofio wedi’u cau, a llethrau sgïo wedi’u cau i bawb ond am gystadleuwyr proffesiynol.

Mae bariau, caffis a bwytai bellach yn destun cyrffiw 6 o’r gloch ond maen nhw’n gwrthwynebu hynny ar hyn o bryd, gyda’r rhan fwyaf yn dechrau gweini bwyd am 8 o’r gloch.

Ond fydd dim rhaid i blant o dan chwech oed gadw at y rheolau, a fydd dim rhaid i bobol wisgo mygydau i wneud ymarfer corff.

Mae oddeutu 75% o blant y wlad bellach yn cael eu dysgu ar y we.

Daw’r cyfyngiadau newydd i rym yfory (dydd Llun, Hydref 26), a byddan nhw yn eu lle hyd at Dachwedd 24.

Mae hanner miliwn o achosion wedi bod yn y wlad ers mis Chwefror, ac mae bron i 20,000 o achosion dyddiol newydd wedi’u cofnodi dros y ddau ddiwrnod diwethaf.

Mae protestiadau eisoes ar y gweill wedi i’r cyfyngiadau gael eu cyhoeddi, ac fe fu gwrthdaro ffyrnig rhwng protestwyr a’r heddlu yn Rhufain a Napoli.