Mae Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, wedi cyhoeddi ail argyfwng cenedlaethol yn sgil y coronafeirws er mwyn ceisio gostwng nifer yr achosion.
Daeth y cyhoeddiad mewn anerchiad ar y teledu y bydd y wlad yn dechrau ar ail gyfnod clo o heddiw (dydd Sul, Hydref 25).
Bydd cyrffiw mewn grym rhwng 11 o’r gloch y nos a 6 o’r gloch y bore ym mhob rhan o’r wlad ac eithrio’r Ynysoedd Dedwydd.
Bydd gan arweinwyr rhanbarthol yr hawl i osod eu cyrffiw eu hunain ar yr amod ei fod yn fwy llym na’r un cenedlaethol, i gau ffiniau rhanbarthol i atal pobol rhag teithio, ac i gyfyngu cynulliadau i chwech o bobol nad ydyn nhw’n byw ar yr un aelwyd.
Fe fydd Pedro Sanchez yn ceisio sêl bendith y Senedd er mwyn ymestyn y cyfyngiadau am hyd at chwe mis.