Mae’r heddlu’n ymateb i ddigwyddiad ar dancer olew ger Ynys Wyth, yn dilyn adroddiadau ynghylch ymgais i feddiannu’r cerbyd o Libya.

Mae’r tancer yn ardal Sandown wedi’i gofrestru yn Libya, yn ôl gorsaf radio leol.

Dywed yr heddlu y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth maes o law.

Yn ôl llefarydd ar ran cwmni porthladdoedd ABP, sy’n gyfrifol am reoli porthladd Southampton, dydyn nhw ddim wedi derbyn gwybodaeth am y digwyddiad a dydyn nhw ddim wedi bod mewn cysylltiad â chriw’r cerbyd.