Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud y bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag archfarchnadoedd ddydd Llun (Hydref 26) i drafod y gwaharddiad dadleuol ar nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol.
Yn ôl y Prif Weinidog mae gan archfarchnadoedd “ddisgresiwn” dros wahardd eitemau nad yw’n hanfodol.
Eglurodd efallai y bydd angen i bobol brynu cynnyrch o’r fath “am resymau cwbl annisgwyl na allent fod wedi’u rhagweld” yn ystod y cyfnod clo.
Daeth y cyfyngiadau newydd i rym nos Wener, Hydref 23, a byddan nhw’n para tan Dachwedd 9.
Cyhoeddwyd y gwaharddiad ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn y Senedd ddydd Iau (Hydref 22) ar ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig ddweud ei fod yn “annheg” gorfodi manwerthwyr annibynnol i gau tra bod nwyddau tebyg ar werth mewn archfarchnadoedd mawr.
‘Gweithio ochr yn ochr ag archfarchnadoedd’
“Fydda i ddim angen prynu dillad dros y pythefnos yma ac rwy’n meddwl y bydd llawer o bobol yng Nghymru yn yr un sefyllfa”, meddai Mark Drakeford wrth ITV Cymru.
“I mi, nid yw hyn yn hanfodol.
“Ond rwy’n cydnabod y bydd rhai pobol am resymau gwbl annisgwyl na allent fod wedi’u rhagweld, angen prynu eitemau tebyg.
“O dan yr amgylchiadau hynny, lle mae’r rhesymau lles hynny yn y fantol, byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein harchfarchnadoedd yn deall bod ganddynt y disgresiwn i gymhwyso’r rheolau’n wahanol.”
“Mae archfarchnadoedd eisiau gwneud y peth iawn, dw i’n gwybod, a’n gwaith ni yw gweithio ochr yn ochr â nhw i wneud yn siŵr bod hynny’n glir i bawb.”
Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi gofyn am alw Senedd Cymru yn ôl er mwyn trafod y gwaharddiad.
“Tanseilio pwrpas” y cyfyngiadau
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi dweud y byddai caniatáu i siopau, sy’n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol, i agor yn ystod y cyfnod clo yn “tanseilio pwrpas” y cyfyngiadau.
“Petai ni’n penderfynu y gallai’r siopau mwy gario mlaen i werthu’r eitemau hynny, ry’n ni’n gwybod y bydden ni mewn sefyllfa debyg i’r un sy’n wynebu Iwerddon ar hyn o bryd, lle mae’r siopau llai yn anhapus iawn ac yn galw am weithredu,” meddai wrth Sky News.
“Os y’n ni wedyn yn caniatáu i’r holl siopau sy’n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol i agor yna ry’n ni’n tanseilio pwrpas y pecyn o fesurau i geisio achub bywydau pobl.”
Ychwanegodd Vaughan Gething bod gan nifer o fanwerthwyr siopau ar-lein lle gall pobl brynu nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn ystod y cyfnod clo.
Clo arall yn bosib yn y flwyddyn newydd
Ni wnaeth Mark Drakeford ddiystyru’r posibilrwydd o gael ail gyfnod clo dros dro yng Nghymru yn y flwyddyn newydd.
“Yn y flwyddyn newydd, pwy a ŵyr beth fyddwn yn ei wynebu”, meddai.
“Pe bai pethau mor ddifrifol ag y maent yng Nghymru heddiw, ni all neb ddiystyru’r angen i gymryd camau eithriadol bellach.”