Mae deiseb yn galw am yr hawl i brynu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol yn ystod y cyfnod clo dros dro wedi denu mwy na 17,000 o lofnodion.
Does dim hawl gan siopau, gan gynnwys archfarchnadoedd, i werthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol ar ôl i’r cyfnod clo dros dro ddod i rym ddoe (dydd Gwener, Hydref 23).
Ond yn ôl y ddeiseb, dydy’r gwaharddiad “ddim yn rhesymegol” ac fe fydd yn “achosi mwy o niwed nag o dda”.
“Dydyn ni ddim, er enghraifft, yn cytuno y dylid gwahardd rhieni rhag prynu dillad i’w plant yn ystod y cyfnod clo wrth siopa,” meddai’r ddeiseb.
“Mae hyn yn anghymesur ac yn greulon, ac rydym yn gofyn am wyrdroi’r penderfyniad ar unwaith.”
Mae fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos dyn yn rhwygo gorchudd oddi ar silffoedd dillad mewn archfarchnad.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i gau siopau nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol.
“Gall archfarchnadoedd barhau i werthu eitemau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw mewn siopau hanfodol eraill – megis deunydd ysgrifennu / cardiau cyfarch,” meddai’r Llywodraeth ar Twitter.
“Pwrpas gwerthu nwyddau hanfodol yn unig yn ystod y cyfnod clo dros dro yw annog peidio â threulio mwy o amser nag sydd ei angen mewn siopau ac er mwyn bod yn deg â manwerthwyr sy’n gorfod cau.
“Nid er mwyn bod yn anodd mae hyn – mae angen i ni wneud popeth allwn ni i leihau’r amser rydyn ni’n ei dreulio y tu allan i’n cartrefi.
“Bydd hyn yn helpu i achub bywydau a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.”