Mae Andrew RT Davies yn galw am wyrdroi’r gwaharddiad “gwarthus” ar nwyddau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol yn archfarchnadoedd Cymru yn ystod y cyfnod clo dros dro.

Daeth y cyfyngiadau newydd i rym neithiwr (nos Wener, Hydref 23) a byddan nhw’n para tan Dachwedd 9.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i geisio egluro beth yw nwyddau hanfodol, ond mae’r dryswch yn parhau i rai, gyda rhai yn dadlau y dylai llyfrau, dyfeisiau technolegol, dillad a dillad gwely fod yn nwyddau hanfodol.

“Dw i erioed wedi gweld y fath ymateb chwyrn i benderfyniad gan Lywodraeth Lafur Cymru,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’r gwaharddiad gwarthus hwn wedi achosi gwir ddicter ledled Cymru a dydy hi ddim yn deg ar y staff hynny sy’n gweithio yn ein harchfarchnadoedd na’r cyhoedd yng Nghymru sydd eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn ar drothwy pythefnos anodd.

“Tra efallai bo’r prif weinidog yn ddiymdroi, does bosib fod rhaid i’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething gydnabod y niwed y bydd hyn yn ei achosi i hyder y cyhoedd a gofynnaf iddo ymyrryd a dweud wrth Mark Drakeford a’i gydweithwyr fod rhaid gollwng hyn ar unwaith.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i gau siopau nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol.

“Gall archfarchnadoedd barhau i werthu eitemau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw mewn siopau hanfodol eraill – megis deunydd ysgrifennu / cardiau cyfarch,” meddai’r Llywodraeth ar Twitter.

“Pwrpas gwerthu nwyddau hanfodol yn unig yn ystod y cyfnod clo dros dro yw annog peidio â threulio mwy o amser nag sydd ei angen mewn siopau ac er mwyn bod yn deg â manwerthwyr sy’n gorfod cau.

“Nid er mwyn bod yn anodd mae hyn – mae angen i ni wneud popeth allwn ni i leihau’r amser rydyn ni’n ei dreulio y tu allan i’n cartrefi.

“Bydd hyn yn helpu i achub bywydau a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.”