Fel rhan o gyfyngiadau’r cyfnod clo dros dro yng Nghymru, dim ond siopau sy’n gwerthu nwyddau hanfodol sy’n cael aros ar agor.

Ar ôl i’r cyfnod clo dros dro ddod i rym neithiwr (nos Wener, Hydref 23), mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am eglurder ynghylch beth yw nwyddau hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar eu gwefan sy’n ceisio egluro ystyr hanfodol, wrth i bobol gwyno bod archfarchnadoedd wedi gorchuddio silffoedd lle mae nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol fel arfer yn cael eu harddangos.

Beth yw ystyr hanfodol?

Mae’n ymddangos bod dryswch o ran siopau sy’n gwerthu cymysgedd o nwyddau hanfodol a rhai nad ydyn nhw’n hanfodol, er enghraifft archfarchnadoedd sy’n gwerthu tipyn o bopeth.

Er mwyn prynu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol, bydd rhaid i bobol ddibynnu ar wasanaethau dosbarthu ar y we, dros y ffôn neu drwy’r post.

Pwrpas gwerthu nwyddau hanfodol yn unig yw sicrhau y gall pobol aros yn eu cartrefi yn unol â’r canllawiau i beidio â mynd allan oni bai bod gwir angen – i deithio i’r gwaith, i roi gofal neu i dderbyn triniaeth feddygol, yn ogystal â mynd i’r gwaith os nad oes modd gweithio o gartref.

Diben gorchuddio silffoedd mewn archfarchnadoedd, sydd wrth reswm yn gwerthu nwyddau hanfodol a rhai nad ydyn nhw’n hanfodol, yw sicrhau nad yw’n creu sefyllfa annheg i siopau sy’n gorfod cau am nad ydyn nhw’n gwerthu unrhyw nwyddau hanfodol o gwbl.

Y siopau sy’n cael aros ar agor yw:

  • siopau bwyd a diod (gan gynnwys alcohol)
  • siopau sy’n gwerthu papurau newydd
  • siopau sy’n gwerthu nwyddau adeiladu a’r cartref
  • fferyllfeydd
  • siopau beicio
  • gorsafoedd petrol
  • garejys a busnesau sy’n llogi ceir
  • swyddfeydd y post, banciau, cymdeithasau adeiladu
  • siopau nwyddau anifeiliaid
  • siopau amaethyddol
  • marchnadoedd da byw

Os yw siopau’n gwerthu mwy na’r eitemau yn y rhestr uchod, maen nhw’n cael aros ar agor i werthu’r nwyddau hynny yn unig, a bydd rhaid cau ardaloedd mewn siopau sy’n gwerthu nwyddau eraill.

Ond mae disgwyl i siopau gadw at reoliadau iechyd a diogelwch wrth gau adrannau o fewn eu siopau, a dylid gosod nwyddau fel ei fod yn ddiogel i gwsmeriaid eu cyrraedd.

Does dim hawl gan archfarchnadoedd neu siopau mawr werthu nwyddau trydanol, ffonau neu ffonau symudol, dillad, teganau a gemau a nwyddau’r ardd.

O ran nwyddau’r cartref, dylid cau adrannau penodedig sy’n gwerthu nwyddau’r gegin, dodrefn, dillad gwely ac addurniadau.

Ond os yw nwyddau o’r fath ymhlith nwyddau hanfodol, mae modd eu prynu os ydyn nhw at ddiben cynnal a chadw’r cartref mewn argyfwng – mae’r rhain yn cynnwys batris, goleuadau a menig a fyddai fel arfer yn cael eu gwerthu mewn garej a siopau papurau newydd.

Os oes yna amheuaeth, dylai siopau benderfynu am y gorau pa nwyddau y dylid eu gwerthu a pha rai i’w rhoi o’r neilltu.

Os nad oes modd eu storio nhw ar wahân a bod rhaid eu cadw ar y silffoedd, dylid nodi nad oes gan y cyhoedd fynediad i’r silffoedd hynny.

Clicio a chasglu

Daeth gwasanaethau clicio a chasglu yn fwy poblogaidd yn ystod y cyfnod clo eleni.

Ond dim ond siopau sydd â’r hawl i agor sy’n cael cynnig y gwasanaeth hwn, a dim ond ar gyfer nwyddau hanfodol y dylid ei gynnig.

Lle na fydd modd i gwmnïau wahaniaethu rhwng nwyddau hanfodol a rhai nad ydyn nhw’n hanfodol, mae’n bosib y bydd modd parhau i werthu pob math o nwyddau os yw’n debygol o arwain at lai o bobol yn mynd at y cwmni hwnnw i brynu nwyddau.

Os yw siopau’n cael agor ar gyfer gwasanaeth clicio a chasglu, dylid sicrhau bod modd cadw pellter o ddwy fetr bob amser.

Dosbarthu nwyddau

Mae unrhyw gwmni sy’n cynnig gwasanaethau dosbarthu, sy’n golygu nad oes rhaid i bobol fynd i’r siop i brynu, yn cael aros ar agor.

Mae hyn yn wir am siopau sy’n gwerthu nwyddau hanfodol a nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol.

Yn yr achos yma, mae modd gweithio o’r safle o hyd.

Gall gwasanaethau dosbarthu gael eu cynnig ar y we, dros y ffôn neu drwy’r post.