Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am eglurder ynghylch yr hyn yw nwyddau hanfodol, ar ôl i siopau sy’n gwerthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol orfod cau eu drysau yn ystod y cyfnod clo dros dro.
Daeth y cyfyngiadau newydd i rym neithiwr (nos Wener, Hydref 23), a byddan nhw mewn grym tan Dachwedd 9.
Yn ystod y cyfnod hwn, fydd pobol ddim ond yn cael siopa am nwyddau hanfodol, a fydd dim modd teithio’n ddiangen. Ymhlith y rhesymau dilys mae teithio i’r gwaith os nad oes modd gweithio o gartref, rhoi gofal i rywun neu fynd i gael triniaeth feddygol.
Mae rhai siopau wedi cau eu drysau, tra bod archfarchnadoedd yn dal ar agor ond wedi gorchuddio silffoedd sydd â nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol.
Yn ôl Darren Millar, mae “dryswch drwyddi draw yng Nghymru”.
“Does gan archfarchnadoedd, siopau cyfleus a siopau eraill ddim clem pa nwyddau mae Llywodraeth Lafur Cymru’n eu hystyried yn rhai nad ydyn nhw’n hanfodol fel bod modd cyfyngu eu gwerthiant,” meddai Darren Millar, llefarydd adferiad Covid y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae gwneud dictadau munud olaf yn anghyfrifol.
“Rhaid i weinidogion roi arweiniad ar unwaith fel bod busnesau a’r cyhoedd yn gwybod lle maen nhw’n sefyll.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i gau siopau nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol.
“Gall archfarchnadoedd barhau i werthu eitemau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw mewn siopau hanfodol eraill – megis deunydd ysgrifennu / cardiau cyfarch,” meddai’r Llywodraeth ar Twitter.
“Pwrpas gwerthu nwyddau hanfodol yn unig yn ystod y cyfnod clo dros dro yw annog peidio â threulio mwy o amser nag sydd ei angen mewn siopau ac er mwyn bod yn deg â manwerthwyr sy’n gorfod cau.
“Nid er mwyn bod yn anodd mae hyn – mae angen i ni wneud popeth allwn ni i leihau’r amser rydyn ni’n ei dreulio y tu allan i’n cartrefi.
“Bydd hyn yn helpu i achub bywydau a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.”