Mae llanc 17 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng ngogledd-ddwyrain Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Walthamstow am 9.20 neithiwr (nos Wener, Hydref 23) a chafwyd hyd i’r llanc ag anafiadau.

Cafodd e driniaeth gan barafeddygon yn y fan a’r lle, ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i’w lofruddiaeth, ond does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn ac maen nhw’n ceisio ei adnabod er mwyn rhoi gwybod i’w deulu.

Fe fu’r heddlu’n archwilio’r safle eisoes, ac mae dau gar wedi cael eu symud oddi yno.

Maen nhw’n apelio am dystion a gwybodaeth.