Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyfiawnhau’r cyfnod clo dros dro, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru eisiau rhoi’r “cyfle gorau” i bobol weld eu teuluoedd dros gyfnod y Nadolig.
Daeth y cyfnod clo dros dro i rym am 6 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Hydref 23), ac fe fydd yn para 17 diwrnod tan Dachwedd 9.
Wrth ddychwelyd i drefn debyg i’r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, fydd pobol ond yn cael gadael eu cartrefi i brynu nwyddau hanfodol fel bwyd a meddyginiaeth, i ddarparu gofal neu i wneud ymarfer corff.
Dywed y llywodraeth y dylai pawb weithio o gartref pe bai modd.
Mae’r holl siopau sy’n gwerthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol wedi’u cau, ynghyd â chanolfannau hamdden, busnesau lletygarwch a thwristiaeth, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau ailgylchu.
Dim ond ar gyfer priodasau ac angladdau mae addoldai ar agor.
‘Ailosod y genedl’
Yn ôl Vaughan Gething, fu’n siarad â BBC Breakfast heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 24), mae’r cyfnod clo dros dro yn angenrheidiol er mwyn gostwng y gyfradd R, sydd yn uwch nag 1 ar hyn o bryd.
Ac mae’n dweud y bydd mesurau newydd yn dod i rym o Dachwedd 9 pan fydd y cyfnod clo dros dro yn dod i ben.
Ond mae’n dweud nad oes modd cynnig “sicrwydd” ynghylch y Nadolig.
“Rydym ni eisiau cael Nadolig lle bydd pobol yn gallu gweld ei gilydd, ond rhaid i ni edrych ar le’r ydyn ni arni o ran y feirws, sut rydyn ni’n ymddwyn yng Nghymru, a fyddwn ni’n gallu ei leddfu’n effeithiol ar ôl y cyfnod clo dros dro,” meddai.
“Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i ni wneud hynny, ond pe bawn i’n dweud wrthoch chi heddiw sut fyddai’r Nadolig yn edrych, yna byddwn i’n dyfalu, yn rhoi gobaith ffug i bobol, a ddylen ni ddim bod yn gwneud hynny o gwbl.
“Mae ymddiriedaeth rhwng y cyhoedd, y Gwasanaeth Iechyd a’r gweinidogion sy’n gwneud penderfyniadau’n bwysig dros ben.
“Dyna pam ein bod ni’n cyhoeddi cymaint o wybodaeth, dyna pam nad ydyn ni’n gwneud addewidion mawr wrth gael ein holi i ddarogan y dyfodol rai misoedd ymlaen llaw.
“Byddai’n well o lawer gen i siarad yn blwmp ac yn blaen na rhoi addewid camarweiniol ynghylch sut fydd y dyfodol yn edrych.
“Mae’r ansicrwydd rydyn ni’n byw ynddo’n glir.”
Effaith y cyfnod clo dros dro
Yn ôl Vaughan Gething, mae yna 156.8 o heintiadau ym mhob 100,000 o’r boblogaeth erbyn hyn yng Nghymru.
Dim ond un sir sydd o dan y trothwy o 50 o achosion ym mhob 100,000.
Ac mae economegwyr yn darogan y gallai’r cyfnod clo dros dro gostio mwy na £500m i economi Cymru.
“Nid yw’n fater yn unig o’r gost uniongyrchol o fewn y cyfnod clo dros dro, pan wyddom ni y bydd yna her a cholled yn nhermau gweithgarwch economaidd,” meddai Vaughan Gething wedyn.
“Mae’n fater o atal colled dipyn mwy pe bai gennym ni fesurau hirach, dyfnach a mwy parhaus.
“Rydym hefyd yn cydnabod fod y cyfnod yn arwain at ddiwedd y flwyddyn yn arwyddocaol dros ben i’r economi hefyd.
“Wrth weithredu nawr, rydym yn atal yr hyn yr ydyn ni’n gwybod y bydd yn niweidiol wrth ddod i mewn i’n system ysbytai, yn atal nifer y marwolaethau y gallem ei disgwyl fel arall, gan roi cyfle gwell i gael set o fesurau cenedlaethol y gall ac y bydd pobol yn eu dilyn.
“Mewn gwirionedd, bydd hynny’n newyddion da i’r economi ar adeg allweddol yn y flwyddyn.”
‘Cyfnod clo diangen’
Ond yn ôl Andrew RT Davies, does dim angen cyflwyno’r cyfnod clo dros dro.
Wrth siarad â Sky News, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo’r prif weinidog Mark Drakeford o “orymestyn”, gan ddweud y byddai cyfnodau clo mwy lleol wedi bod yn “fwy effeithiol a llai niweidiol”.
“Pe baech chi’n gofyn i’r prif weinidog ei hun, all e ddim darogan beth fydd canlyniadau’r cyfnod clo hwn,” meddai.
“Ond yr hyn rydyn ni’n ei wybod yw y bydd yn ddinistriol yn economaidd.”
Nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol
Mae e hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad i beidio â gwerthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol.
“Do’n i erioed wedi meddwl y byddwn i’n byw mewn oes lle mae llwybrau mewn archfarchnadoedd wedi’u rhwystro oherwydd nad oeddech chi’n gallu prynu sychwr gwallt na dillad babanod, na theganau i blant, pan fo’r siop ar agor.”