Mae disgwyl i Heddlu Swydd Gaerloyw geisio atal pobol yng Nghymru rhag gadael y wlad a chroesi’r ffin yn ystod y cyfnod clo dros dro yn ystod y bythefnos nesaf.
Byddan nhw’n goruchwylio’r ffin yn ardal Fforest y Ddena ac yn atal ceir sydd wedi’u hamau o deithio’n bell yn ddiangen.
Mae disgwyl iddyn nhw orchymyn gyrwyr i droi’n ôl a rhoi gwybod i’r heddlu yn yr ardal lle maen nhw’n byw eu bod nhw wedi torri’r gyfraith.
Pe baen nhw’n gwrthod troi’n ôl, byddai modd i’r heddlu eu riportio i’w heddlu lleol er mwyn iddyn nhw roi dirwy.
Fydd gan Heddlu Swydd Gaerloyw mo’r hawl i roi dirwy’n uniongyrchol i bobol o Gymru.
Daeth y cyfnod clo dros dro i rym am 6 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Hydref 23), ac fe fydd yn para 17 diwrnod.