Mae plismon wedi cael ei ddiswyddo ar ôl iddo saethu dyn 19 oed yn farw yn ei gar a chlwyfo ei gariad yn Chicago.

Cafodd cerbyd Marcellis Stinnette a Tafara Williams ei stopio’n hwyr nos Fawrth (Hydref 20), ac fe ddywedodd yr heddlu iddyn nhw gyflawni troseddau gyrru.

Dydy enw’r plismon ddim wedi cael ei gyhoeddi, ac fe fydd yr FBI a heddlu talaith Illinois yn cynnal ymchwiliad, ac mae twrnai wedi gofyn i’r Adran Gyfiawnder gynnal ymchwiliad hefyd.

Sylwadau’r heddlu

Yn ôl yr heddlu, roedd Tafara Williams yn gyrru a Marcellis Stinnette yn teithio yn y cerbyd pan geision nhw eu stopio, ond fe wnaethon nhw wrthod.

Dywed yr heddlu fod y cerbyd wedi dechrau teithio am yn ôl wrth i ail gar heddlu geisio eu stopio, a dyna pryd y dechreuodd y plismon saethu.

Roedd y plismon oedd wedi eu saethu o dras Hisbaenaidd, ac fe fu’n gweithio i heddlu Waukegan ers pum mlynedd.

Mae teulu’r cwpl yn galw am gyhoeddi fideo o’r digwyddiad sydd bellach yn nwylo’r awdurdodau.

Mae lle i gredu bod fideo’r heddlu a fideo arall gan Tafara Williams yn gwrthddweud ei gilydd, a’i bod hi’n dweud nad oedden nhw wedi pryfocio’r heddlu.