Mae Andrzej Duda, arlywydd Gwlad Pwyl, wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Daw’r canlyniad positif ar ôl iddo fe gael prawf ddoe (dydd Gwener, Hydref 23), yn ôl ei lefarydd.

Ond fe ddywed nad yw’r arlywydd 48 oed yn teimlo’n sâl.

Dydy hi ddim yn glir sut fydd y sefyllfa’n effeithio ar ei lywodraeth.