Mae dyn 43 oed o Benfro wedi cael ei wahardd rhag gyrru yn dilyn gwrthdrawiad wrth iddo gael ei gwrso gan yr heddlu.

Fe wnaeth Andrew McAteer yrru ar ôl yfed dwy botel o win, gan yrru ar balmentydd a tharo dau gar ar ochr y ffordd wrth i’r heddlu ei gwrso.

Fe ddigwyddodd y troseddau wrth i Heddlu Dyfed-Powys ei gwrso ar Fedi 19.

Cwrso

Fe ddaeth y dyn i sylw’r heddlu pan wnaeth e dynnu allan o flaen car yr heddlu, gan orfodi’r gyrrwr i daro’r brêc yn sydyn.

Fe wnaeth yr heddlu ei ddilyn am filltir a hanner gan ddefnyddio eu goleuadau, ond wnaeth y gyrrwr ddim stopio.

Aeth yn ei flaen i yrru ar balmentydd ac ar ochr arall y ffordd, gan daro dau gar oedd wedi cael eu parcio cyn dod i stop mewn maes parcio.

Ceisiodd y sawl oedd yn y car redeg i ffwrdd, ond fe gafodd y gyrrwr ei stopio ac fe wnaeth yr heddlu geisio gynnal prawf alcohol ond fe wrthododd, gan ddweud y byddai dros y trothwy.

Cafodd ei arestio am wrthod rhoi sampl o’i anadl a’i waed.

Achos llys

Dywedodd yn y llys ei fod e wedi yfed dwy botel o win, ac fe blediodd yn euog i’r troseddau.

Cafwyd e’n euog, felly, o yrru’n beryglus, o fethu â stopio ar gais yr heddlu, o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad ac o fethu â rhoi samplau.

Cafodd e ddedfryd o wyth mis o garchar, wedi’i gohirio am 12 mis, a’i atal rhag gyrru am dair blynedd.

Bydd yn rhaid iddo ddilyn cynllun adfer a chwrs triniaeth alcohol, a bydd yn rhaid iddo fe hefyd gael prawf gyrru estynedig ar ddiwedd ei waharddiad.