Mae undebau llafur yng Nghymru’n galw unwaith eto ar Lywodraeth Prydain i gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr ar ddechrau’r cyfnod clo dros dro.

Maen nhw am weld y llywodraeth yn codi lefel eu cefnogaeth i 80% o gyflogau am bythefnos llawn y cyfnod clo, gan feirniadu Boris Johnson, prif weinidog Prydain, am fethu ag ymateb i’w galwadau.

Dydy e ddim chwaith wedi cytuno i alluogi dechreuwyr swyddi newydd i gael mynediad i’r Cynllun Cynnal Swyddi yn ystod wythnos gynta’r cyfnod clo dros dro.

Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y gallai hyd at 200,000 o weithwyr gael eu heffeithio gan y cyfyngiadau a ddaeth i rym neithiwr (nos Wener, Hydref 23).

Maen nhw’n dweud bod nifer sylweddol o’r gweithwyr eisoes ar gyflogau isel, gyda hanner y rhai sy’n gweithio ym meysydd llety, bwyd neu fanwerthu’n enill llai na £20,000 y flwyddyn, neu £375 yr wythnos, gyda gostyngiad i 67% o’u cyflogau arferol yn golygu bod gweithwyr yn y diwydiannau hyn yn colli £125 yr wythnos.

Ymateb undeb gweithwyr siopau USDAW

“Fe wnaeth pobol Cymru ethol ein Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch iechyd cyhoeddus, a nawr mae Boris yn ceisio ein cosbi ni drwy beidio â chwarae’n deg ynghylch cynlluniau cymorth cyflogau,” meddai Nick Ireland, swyddog rhanbarthol undeb USDAW, sy’n cynrychioli gweithwyr siopau.

“Mae cyfrifoldeb hynny’n sicr wrth ddrws Rhif 10.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am gymorth cyflogau, ac ni all geisio defnyddio gweithwyr Cymru fel gwystlon i atal ein llywodraeth rhag cymryd y mesurau iechyd cyhoeddus angenrheidiol.

“Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i weld beth ellir ei wneud i geisio trwsio rhai o’r tyllau yn rhwydi diogelwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan edrych ar gymorth busnesau a chronfeydd disgresiwn i geisio sicrhau bod pobol yn gallu cael deupen y llinyn ynghyd.

“Ond nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru mo hyn, ac mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydweithio â nhw ar frys i geisio trwsio hyn ac i sicrhau nad yw’r un gweithwyr yn mynd heb ddim.”

Ymateb undeb Unsain

Wrth ganmol Llywodraeth Cymru am geisio mynd i’r afael â’r coronafeirws, dywed undeb Unsain ei bod hi’n “warthus fod Llywodraeth Prydain yn tanseilio’r mesurau iechyd cyhoeddus drwy beidio â darparu digon o gymorth cyflogau i weithwyr”.

“Mae’n sarhad i ddatganoli,” meddai Karen Loughlin, Ysgrifennydd Rhanbarthol yr undeb.

“Unwaith eto, dydy Boris ddim yn fodlon helpu nifer o’r bobol ar y cyflogau isaf i ymdopi, gan adael nifer heb fynediad i unrhyw gymorth cyflogau o gwbl.

“Fan lleiaf, mae angen iddo fe ariannu Cymorth Cynnal Swyddi cyfnod clo sy’n golygu bod gan weithwyr yr hawl i 80% o’u cyflogau arferol fel nad yw mwy o bobol yn gorfod defnyddio banciau bwyd er mwyn goroesi.”

Ymateb TUC Cymru

Yn ôl TUC Cymru, mae’n “anghredadwy” nad yw Llywodraeth Prydain “wedi ymateb yn adeiladol” i Lywodraeth Cymru.

“O ganlyniad, fydd llawer gormod o weithwyr yng Nghymru ddim yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn ystod y cyfnod clo dros dro,” meddai Ruth Brady, Llywydd ac Ysgrifennydd Rhanbarthol TUC Cymru.

“Ac er gwaethaf cyhoeddiad y Canghellor, o ddechrau mis Tachwedd, fydd y Cynllun Cymorth Swyddi newydd ond yn darparu 67% o gyflogau pobol iddyn nhw.

“I’r rhan fwyaf o weithwyr, yn enwedig y rhai ar y cyflogau isaf, bydd gostyngiad o draean yn eu cyflogau’n ei gwneud hi’n anodd dros ben iddyn nhw dalu eu biliau a bwydo’u teuluoedd.

“Dylai disodli cyflogau fod ar 80% o’r cynllun ffyrlo presennol – ac mae amser o hyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailfeddwl am hyn.

“Mae yna bobol ledled Cymru bellach sy’n wynebu caledi go iawn.”