Mae tair o dafarnau yn Ynys Môn wedi cael Hysbysiadau Gwella Covid-19 yn dilyn ymweliadau gan swyddogion y Cyngor Sir a Heddlu’r Gogledd.

Daw’r hysbysiadau er mwyn amddiffyn staff, cwsmeriaid a chymunedau ar ôl i reolau’r coronafeirws gael eu torri.

Y tafarnau dan sylw yw’r Bulkeley Arms ym Mhorthaethwy, Gwesty’r Bull yn Y Fali a’r Chester Inn yng Nghaergybi.

Byddan nhw nawr yn cael eu monitro er mwyn sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith, ac fe allen nhw dderbyn Rhybudd Cau os nad ydyn nhw’n dilyn y camau priodol.

Ymateb y Cyngor

“Mae mwyafrif y mannau lletygarwch ar Ynys Môn yn gweithio’n ofnadwy o galed er mwyn cadw cwsmeriaid yn ddiogel a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau Covid-19,” meddai Les Pursglove, prif swyddog gwarchod y cyhoedd y Cyngor Sir.

“Yn anffodus, mae’r mannau a restrir uchod wedi anwybyddu rhybudd blaenorol a roddwyd iddynt gan olygu eu bod bellach wedi derbyn Hysbysiad Gwella.

“Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fusnesau ac mae ein swyddogion wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad os oes angen.”

Mae Tîm Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor bellach yn cydweithio â deiliaid trwydded er mwyn eu cefnogi i wneud gwelliannau a chadw pawb yn ddiogel.

“Byddwn yn parhau i gynnal ymweliadau ar y cyd â Swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn sicrhau bod pob eiddo trwyddedig yn dilyn y rheolau a rheoliadau Coronafeirws,” meddai’r Prif Arolygydd Owain Llewelyn o Heddlu’r Gogledd.

“Mae’n bwysig cofio bod busnesau yn chwarae rôl hanfodol o ran helpu i atal lledaeniad y Coronafeirws a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”