Mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, yn galw ar bobol Cymru i wirfoddoli i helpu eraill wrth i’r cyfnod clo dros dro ddod i rym yng Nghymru’r penwythnos hwn.
Ond rhybuddiodd bobol i beidio â pheryglu eu hunain na’r person maen nhw’n darparu gofal iddyn nhw.
“Rydych chi eisoes wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol ar draws cymunedau Cymru,” meddai Jane Hutt, wrth gyfeirio at wirfoddolwyr y wlad.
“Mae grwpiau cymunedol wedi dangos pa mor dda mae gwirfoddolwyr yn cydweithio, a dw i am gymeradwyo a dathlu’r ymdrechion a wnaed, a’ch annog i barhau i gefnogi eich cymunedau lleol o’ch cartref, os yw’n rhesymol ymarferol, neu drwy aros mor agos at eich cartref â phosibl.
“Mae rheolau’r cyfnod atal byr yn caniatáu inni ddarparu gofal neu gymorth i berson sy’n agored i niwed, gan gynnwys cymorth brys.”
“Amhrisiadwy”
“Mae gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig o ran cynorthwyo’r rheini sy’n fwyaf agored i niwed a chymryd y straen oddi ar ysgwyddau’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai Ruth Marks, prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
“Wrth i ni symud nawr i gyfnod byr o gyfyngiadau cenedlaethol, bydd angen cymorth ar lawer o unigolion a grwpiau, ac yn sicr bydd digon o bobl neu grwpiau sy’n barod i helpu.
“Boed hynny drwy gasglu siopa, cyflwyno presgripsiynau drostyn nhw neu roi caniad cyfeillgar iddyn nhw.”