Mae 19 o bobol wedi cael eu harestio yn ystod y bythefnos ddiwethaf ar amheuaeth o smyglo pobol ar draws y Sianel ac o gael mynediad anghyfreithlon i wledydd Prydain.

Daw cyhoeddiad y Swyddfa Gartref wrth i awdurdodau Ffrainc atal mwy na 650 o bobol rhag croesi.

Mewn pedwar digwyddiad gwahanol ddoe (dydd Gwener, Hydref 24), cafodd 33 o bobol eu dwyn i’r ddalfa.

Mae mwy na 7,400 o ffoaduriaid wedi croesi’r Sianel mewn cychoed eleni, yn ôl y Press Association.