Mae saith o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o geisio meddiannu tancer olew ger Ynys Wyth.

Dywedodd Heddlu Hampshire eu bod wedi cael gwybod am bryderon ynghylch lles criw’r Nave Andromeda fore dydd Sul, Hydref 25, wrth i’r llong deithio o Lagos yn Nigeria i Southampton.

Cyrhaeddodd y llong borthladd Southampton yn ddiogel fore Llun, Hydref 26.

Cadarnhaodd Heddlu Hampshire fod pob un o’r 22 o bobol oedd ar fwrdd y tancer yn ddiogel.

“Mewn ymateb i gais gan yr heddlu, er mwyn diogelu bywyd, ac oherwydd amheuaeth o herwgipio, awdurdododd yr Ysgrifennydd Amddiffyn a’r Ysgrifennydd Cartref i Luoedd Arfog gael eu hanfon i fwrdd y llong”, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Mae’r Lluoedd Arfog bellach â rheolaeth dros y llong ac mae saith unigolyn wedi’u harestio.

“Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel ei bod hi’n “ddiolchgar am waith cyflym a phendant yr heddlu a’r lluoedd arfog”.

“Llwyddwyd i reoli’r sefyllfa, gan sicrhau diogelwch pawb.”