Mae grŵp o fwy na 800 o gyn-farnwyr ac aelodau blaenllaw eraill o fyd y gyfraith wedi arwyddo llythyr at y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, yn galw arnyn nhw i ymddiheuro am yr “atgasedd” maen nhw wedi’i ddangos tuag at y proffesiwn.
Mae’r llythyr, sydd wedi ei arwyddo gan gyn-farnwyr a channoedd o fargyfreithwyr a chyfreithwyr, yn ymateb i “ymosodiadau diweddar gan yr Ysgrifennydd Cartref, ac sydd wedi’u hadleisio gan y Prif Weinidog, ar gyfreithwyr” sy’n cynrychioli pobl sy’n ceisio lloches.
Ym mis Awst, yn dilyn cyfres o gwynion, bu’n rhaid i’r Swyddfa Gartref roi’r gorau i ddefnyddio fideo oedd yn cyhuddo cyfreithwyr sy’n cynrychioli ceiswyr lloches o geisio amharu ar y system.
Roedd Boris Johnson hefyd wedi ymuno yn y feirniadaeth yn ystod cynhadledd rithiol y Ceidwadwyr drwy gyhuddo cyfreithwyr hawliau dynol o geisio “llesteirio’r” system cyfiawnder troseddol.
Galw am ‘ymddiheuriad’
Wythnos ddiwethaf cafodd Cavan Medlock, 28 oed, ei gyhuddo o gynllwyn brawychol i ladd cyfreithiwr yn sgil ei rôl yn cynrychioli ceiswyr lloches.
Mae’r llythyr, sydd wedi ei gyhoeddi yn The Guardian, yn dweud bod “ymosodiadau o’r fath yn peryglu diogelwch personol cyfreithwyr ac eraill sy’n gweithio yn y system cyfiawnder.”
Ychwanega’r llythyr: “Ry’n ni’n gwahodd yr Ysgrifennydd Cartref a’r Prif Weinidog i ymddwyn yn anrhydeddus drwy ymddiheuro am eu hatgasedd, ac i osgoi ymosodiadau o’r fath yn y dyfodol.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth wrth y papur newydd ei bod “yn glir bod unrhyw fath o drais yn annerbyniol,” gan ychwanegu: “Mae cyfreithwyr yn chwarae rôl bwysig o gynnal y gyfraith a sicrhau bod pobl yn cael mynediad at gyfiawnder. Serch hynny, nid yw’n golygu na ellir eu beirniadu.