Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru wedi cyhoeddi’r enillwyr eleni gyda chadeirydd Bafta Cymru yn croesawu “cydnabod cynifer o ymarferwyr crefft benywaidd”.

Yn sgil y coronafeirws roedd seremoni Bafta Cymru yn cael ei chynnal ar-lein eleni.

Alex Jones oedd y prif gyflwynwraig, ac roedd eraill yn ymuno â hi trwy gyswllt fideo, gan gynnwys Alexandra Riley, Tom Rhys Harries, Katherine Jenkins a Catherine Zeta-Jones.

Cydnabod ymarferwyr benywaidd

Croesawodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru, bod y gwobrau eleni yn cydnabod ymarferwyr benywaidd a oedd yn arwain y ffordd.

“Wrth i Wobrau BAFTA Cymru ddod i ben am flwyddyn arall, er hynny mewn fformat gwahanol, rwy’n falch iawn o weld cynifer o ymarferwyr crefft benywaidd yn cael eu cydnabod eleni, yn ogystal â’r ganran uchel o’r rhai a dderbyniodd eu gwobr BAFTA gyntaf”, meddai Angharad Mair.

Yn ôl Angharad Mair “ni fu erioed amser pwysicach i ddathlu’r byd celfyddydol yng Nghymru.”

Roedd y 10 categori crefft wedi’u dominyddu gan ymarferwyr benywaidd, wrth i Siân Jenkins ennill ei hail wobr Dylunio Gwisgoedd ar gyfer Eternal Beauty a Rebecca Trotman yn ennill ei gwobr Golygu gyntaf am ei gwaith ar Doctor Who: Ascension of the Cyberman.

Enillodd Melanie Lenihan ei gwobr Colur a Gwallt gyntaf ar gyfer War of the Worlds.

Derbynnydd gwobr Torri Trwodd 2020 oedd Lisa Walters am ei rôl fel cynhyrchydd ar On The Edge: Adulting.

Tair gwobr i ‘His Dark Materials’

Ar ôl derbyn naw enwebiad eleni enillodd cyfres deledu BBC a HBO His Dark Materials dair gwobr.

Ruth Wilson enillodd y wobr Actores orau am ei rhan fel Marisa Coulter yn y gyfres, ac enillodd Suzie Lavelle y wobr Ffotograffiaeth a Goleuo, a Joel Collins y wobr Dylunydd Cynhyrchu.

Ruth Wilson, yn dathlu ennill y wobr Actores orau gyda’i rhieni

Gwobr Cyfraniad Arbennig i Leslie Dilley

Y cyfarwyddwr celf a dylunydd cynhyrchu Leslie Dilley o’r Rhondda oedd enillydd Gwobr Cyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu BAFTA Cymru eleni.

Mae’n fwyaf adnabyddus am ei waith ar y ffilmiau Star WarsAlienRaiders of the Lost Ark a The Abyss.

Dyma’r tro cyntaf i ddylunydd cynhyrchu ennill y wobr arbennig hon.

Les Dilley

Pum gwobr i S4C

Ymhlith yr enillwyr roedd pum gwobr i S4C.

Enillodd Emma Walford a Trystan Ellis Morris categori’r Cyflwynydd Gorau am eu gwaith ar y gyfres Prosiect Pum Mil (Boom Cymru), a chyfres ddogfen Ysgol Ni: Maesincla (Cwmni Darlun) gipiodd y wobr Cyfres Ffeithiol Orau.

“Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector”, meddai Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C.

“Mae amryw o unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog yn creu cynnwys o’r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr.

“Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr i gyd.”

Disgyblion Maesincla yn dathlu

Rhestr enillwyr BAFTA Cymru 2020:

  • Rhaglen Ddogfen Unigol: The Prince And The Bomber
  • Cyfarwyddwr: Ffeithiol: Siôn Aaron a Timothy Lyn, Eirlys Dementia a Tim
  • Dylunio Cynhyrchu: Joel Collins, His Dark Materials
  • Rhaglen Blant: Deian A Loli
  • Awdur: Kayleigh Llewellyn, In My Skin
  • Colur a Gwallt: Melanie Lenihan, War Of The Worlds
  • Ffotograffiaeth a goleuo ffuglen: Suzie Lavelle, His Dark Materials
  • Actores: Ruth Wilson fel Mrs Coulter, His Dark Materials
  • Cyfres Ffeithiol: Ysgol Ni Maesincla
  • Newyddion A Materion Cyfoes: Channel 4 News, Flooding Strikes The South Wales Valleys
  • Sain: Tîm Cynhyrchu Good Omens
  • Cerddoriaeth Wreiddiol: Jonathan Hill, The Long Song
  • Torri Trwodd: Lisa Walters, On The Edge, Adulting
  • Ffilm Fer: Salam 
  • Rhaglen Adloniant: Cyrn ar y Mississippi
  • Cyflwynydd: Emma Walford a Trystan Ellis-Morris, Prosiect Pum Mil
  • Golygu: Rebecca Trotman, Doctor Who
  • Cyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu: Les Dilley
  • Cyfarwyddwr Ffuglen: Lucy Forbes, In My Skin
  • Actor: Jonathan Pryce fel Cardinal Jorge Mario Bergoglio, The Two Popes
  • Dylunio Gwisgoedd: Sian Jenkins, Eternal Beauty
  • Drama Deledu: The Left Behind

Rhestr lawn o enwebiadau BAFTA Cymru.