Mae newyddiadurwyr, gwleidyddion a darlledwyr wedi bod yn talu teyrnged i Frank Bough yn dilyn marwolaeth cyn-gyflwynydd y BBC yn 87 mlwydd oed.

Dywedodd ffrind i’r teulu wrth y BBC bod Frank Bough wedi marw mewn cartref gofal ddydd Mercher (Hydref 21).

Roedd Frank Bough yn gyflwynydd teledu yn ystod y 1970au a 1980au, ac roedd yn rhan o lansio rhaglen Breakfast Time y BBC yn 1983.

Treuliodd gyfnodau’n gweithio i Sky, ITV a London Weekend Television hefyd.

Daeth ei yrfa fel darlledwr i ben yn 1988 pan gafodd ei ddiswyddo yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cymryd cocên ac ymweld â phuteindai.

Roedd cyflwynydd Match Of The Day, Gary Lineker, ymysg y rhai i dalu teyrnged iddo.

“Mae’n ddrwg gennyf glywed fod Frank Bough wedi marw. Wnes i dyfu fyny’n ei wylio’n cyflwyno Grandstand ar ddyddiau Sadwrn. Roedd yn gyflwynydd gwych oedd yn gwneud i bopeth edrych yn hawdd. Cwsg Mewn Hedd Frank.”

Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Llafur, George Galloway, fod Frank Bough “heb ei ail” gan ychwanegu: “Does gan y BBC neb tebyg iddo nawr.”

“Gweithiais gyda Frank Bough yn ystod haf 1983 pan oeddwn yn fyfyrwraig ac yn gweithio fel ysgrifenyddes ar Breakfast Time. Roedd o wastad yn glên a phroffesiynol dros ben,” meddai’r cyflwynydd tywydd BBC Carol Kirkwood.