Rhowch ddarnau o ddau lyfr cwbl wahanol at ei gilydd a be gewch chi? Digon o ddeunydd i godi pryder am ddyfodol S4C a darlledu Cymraeg.

Dw i Isio Bod Yn… ydi un o’r ddau. Hunangofiant craff y canwr, yr arloeswr ym maes busnes adloniant a’r gwleidydd answyddogol, Huw Jones, cyn-Brif Weithredwr S4C a chyn-Gadeirydd ei Hawdurdod hi.