Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn galw am fwy o gefnogaeth ariannol wrth i fusnesau bach barhau i ddioddef a cholli ffydd yn ystod cyfnod economaidd heriol o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae nawfed arolwg yn olynol o 1,500 o fusnesau bach yn nodi anfodlonrwydd wrth i’w refeniw aros yn isel a nifer y swyddi sy’n cael eu colli barhau i godi – yr un fu’r patrwm ers 2018.

Mae’r arolwg, sy’n cael ei gwblhau’n annibynnol gan Verve, yn asesu hyder busnesau bach, cyflogaeth a chyflogau, allforion, cynhyrchiant, capasiti ychwanegol, a chyllid a buddsoddiad.

Mae mwy na hanner y busnesau bach sy’n allforio dramor yn dweud bod eu gwerthiant wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y tri mis diwethaf ar drothwy cyfnod allweddol yn y trafodaethau Brexit a chyn i gyfnod y Nadolig ddechrau.

Tra bod busnesau bach yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor yn ddiweddar y byddai cynlluniau presennol i gefnogi busnesau yn ystod y coronafeirws yn cael eu hymestyn, maen nhw’n galw am gynlluniau newydd i gefnogi’r rhai sydd heb dderbyn unrhyw fath o gymorth hyd yn hyn.

Maen nhw hefyd yn galw am ostwng costau a chyfraddau busnes a chynnig mwy o adnoddau i’r rhai sydd am sefydlu eu busnesau eu hunain.

Canlyniadau’r arolwg

Mae lefelau hyder wedi gostwng o 28 pwynt i -32.6 er y chwarter diwethaf.

Dim ond traean (34%) o’r rhai a gafodd eu holi fis diwethaf sy’n disgwyl i’w perfformiad wella yn ystod y tri mis i ddod, gyda 66% yn disgwyl iddo waethygu.

Dywed 25% o fusnesau fod ganddyn nhw lai o weithwyr o gymharu â’r chwarter diwethaf, ac mae 29% yn disgwyl gorfod colli staff yn ystod y tri mis i ddod, gyda 12% yn disgwyl gorfod colli chwarter eu staff.

Mae’r coronafeirws wedi arwain at y colledion refeniw mwyaf mewn un chwarter ers i gofnodion ddechrau, gyda 56% yn nodi gostyngiad, tra bod 50% yn disgwyl cwymp mewn refeniw yn ystod y chwarter nesaf.

Ymateb

“Mae cof tymor byr yn gyffredin mewn argyfwng ond rhaid i ni beidio ag anghofio bod busnesau bach eisoes dan bwysau diolch i ansicrwydd gwleidyddol, costau cynyddol ac isadeiledd yn gwegian ymhell cyn y gwanwyn,” meddai Mike Cherry, cadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn y Busnesau Bach.

“Fe wnaeth y Canghellor nifer o addasiadau i fesurau cefnogi yr wythnos ddiwethaf oedd i’w croesawu, ac mae’n hanfodol fod y Cynllun Cymorth Swyddi newydd yn syml i’w ddefnyddio, fod y rhai hunangyflogedig yn gallu cael mynediad i’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a bo grantiau arian awdurdodau lleol yn cyrraedd cynifer o’r rhai sydd ei angen â phosib ac mor fuan â phosib.

“Fodd bynnag, mae gormod yn dal heb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i oroesi’r anghyfleustra presennol – nid lleiaf gyfarwyddwyr cwmnïau, y rhai sydd newydd ddod yn hunangyflogedig, y rhai heb safleoedd gwaith a’r rhai is lawr y gadwyn gyflenwi yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

“Mae angen pecyn adfer uchelgeisiol ar gyfer y grwpiau hyn ar frys.

“Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r cronfeydd disgresiwn newydd sy’n cael eu dosbarthu yr wythnos hon i’w helpu lle bo’n bosib.”