Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys ddydd Llun (Hydref 26) i wynebu cyhuddiadau’n ymwneud â’r ddamwain awyren a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala a’r peilot y llynedd.

Mae David Henderson, 66, wedi’i gyhuddo o ddwy drosedd o dan y Gorchymyn Llywio yn yr Awyr (2016) gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA).

Mae wedi’i gyhuddo o ymddwyn mewn modd “byrbwyll/esgeulus” ac o fod yn gysylltiedig â defnydd masnachol yr awyren yn y ddamwain.

Roedd David Henderson o East Riding yn Swydd Efrog, eisoes wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar Fedi 28. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn mynd o flaen Llys y Goron Caerdydd heddiw (Hydref 26).

Roedd Emiliano Sala, oedd yn chwarae i Nantes yn Ffrainc, ar fin dechrau cytundeb newydd gwerth miliynau o bunnoedd gyda Dinas Caerdydd.

Bu farw’r Archentwr 28 oed pan oedd yr awyren roedd yn teithio ynddi wedi plymio i’r môr ger Guernsey ar Ionawr 21, 2019.

Cafodd ei gorff ei dynnu o’r dŵr fis yn ddiweddarach ond nid yw corff y peilot David Ibbotson, 59, o Swydd Lincoln, erioed wedi cael ei ddarganfod.