Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn yma, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mae’r wythnos ddiwethaf oedd un o’r wythnosau mwyaf angheuol ers dechrau’r pandemig.

“Yn anffodus cofnodwyd pum marwolaeth arall dydd Sadwrn, gan wneud yr wythnos diwethaf yn un o’r wythnosau mwyaf angheuol ers dechrau’r pandemig – gyda na 60 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r feirws [yng Nghymru]”, meddai.

“Yn anffodus, byddwn yn gweld mwy o farwolaethau a mwy o ddioddefaint cyn i ni allu rheoli’r feirws a gweld diwedd y pandemig.

“Dydy hwn ddim yn gyfnod hawdd i unrhyw un ohonom yng Nghymru – am y pythefnos nesaf mae’n rhaid i ni gyd fyw gyda set newydd a llym iawn o reoliadau.”

Ffigurau diweddaraf

Mae dros 1,000 o achosion sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws mewn ysbytai yng Nghymru, ac mae 172 o bobol yn derbyn gofal critigol o ganlyniad i’r feirws.

Nodwyd 1,158 yn rhagor o achosion o Covid-19 yng Nghymru heddiw (26 Hydref), gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 43,839.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod chwe marwolaeth arall wedi’u cofnodi, gyda’r cyfanswm hwnnw yn codi i 1,783.

Mae’r cyfraddau Covid-19 wythnosol diweddaraf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru i’w gweld yma.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd fod y coronafeirws yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd wyth awdurdod lleol â chyfradd uwch na 200 o achosion i bob 100,000 o bobol.

Ym Mlaenau Gwent, Caerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf roedd y gyfradd achosion yn uwch na 300 o achosion i bob 100,000 o bobol.

Treth ar werth ar gyfarpar diogelu

Dywedodd Mr Gething hefyd ei fod yn pryderu’n fawr am gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio ag ymestyn y rhyddhad treth ar werth ar gyfarpar amddiffynnol personol (PPE).

“Gan ein bod mewn ail don ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, ni all llwytho 20% o gost ychwanegol ar PPE fod y peth iawn i’w wneud,” meddai Mr Gething.

“Byddwn mewn cysylltiad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro ein bod yn credu fod hyn yn beth anghywir i’w wneud, gofyn iddynt ailystyried, ac ystyried yr effaith ar ein gwasanaethau iechyd a gofal.

“Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar hynny ac yn newid cwrs cyn i’r hepgoriad TAW hwnnw gael ei godi.

“Gobeithio y bydd rhywfaint o gefnogaeth drawsbleidiol i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn gallu annog Canghellor y Deyrnas Unedig i wneud y peth iawn.”

Caniatáu teithio yn sgil profedigaeth

Eglurodd y Gweinidog Iechyd fod teithio i weld ffrindiau neu deulu oherwydd profedigaeth yn rheswm “rhesymol”.

Ond y dylai pobol sy’n gwneud hynny “barchu’r rheolau ymbellhau cymdeithasol.”

“Dydw i ddim am weld pobol yn ymgynnull i gefnogi ei gilydd mewn amgylchiadau lle maen nhw wedi colli rhywun annwyl, ac yn lledaenu’r coronafeirws drwy hynny.”

“Dw i ddim eisiau gweld mwy o bobol yn colli eu bywydau.”

Clo arall yn y flwyddyn newydd?

“Ni all yr un ohonom ddweud beth sy’n debygol yn y flwyddyn newydd,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

Daw hyn ar ôl i Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, awgrymu ar raglen Sunday Supplement Radio Wales y gall fod angen cyfnod clo dros dro arall ym mis Ionawr neu Chwefror.

“Alla i ddim dweud beth fydd y sefyllfa adeg y Nadolig felly yn sicr ni allaf ddweud beth fydd y sefyllfa yn y flwyddyn newydd,” meddai.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi gwrthod diystyru’r posibilrwydd o gael ail gyfnod clo dros dro yng Nghymru yn y flwyddyn newydd.