Ar ddiwrnod cyntaf yr hanner tymor, mae John Bullock, perchennog Caffi Seren ym Methesda wedi cyhoeddi y bydd yn darparu pryd am ddim i unrhyw blentyn sydd mewn angen.

Mae’r cynllun, sy’n cael ei gynnal ar y cyd gyda Siôn Thomas o gwmni ‘Just Mortgages’, yn cychwyn heddiw (Hydref 26) ac am barhau drwy gydol gwyliau’r hanner tymor.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymroi i ymestyn y ddarpariaeth o brydau bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol, dywedodd Siôn Thomas bod bylchau yn parhau i fodoli ac mewn cyfnod mor ansicr, dylai neb fod yn poeni am fwydo eu plant.

Mae’r mentergarwch yn cynnig “rhywfaint o obaith i deuluoedd sydd yn dioddef,” yn ôl y Cynghorydd lleol, Rheinallt Puw.

Annog pobl leol i fanteisio

Mewn neges ar ei dudalen Facebook, mae John Bullock wedi annog trigolion ardal Dyffryn Ogwen i fanteisio ar y cyfle.

Dywedodd bod hi’n gyfnod anodd i bawb ac mae meddwl am rieni’n poeni ynglŷn â bwydo eu plant yn dod a thristwch mawr iddo.

Mae’n nodi bod amrywiaeth o fwydydd ar gael yn rhad ac am ddim, heb fod angen prynu unrhyw beth arall.

“Peidiwch â bod ofn defnyddio hyn,” meddai, “rydym yma i helpu unrhyw un sydd angen.

“Piciwch i mewn neu rhowch alwad dros y ffon a mi nawn yn siŵr bod y bywyd yn barod i chi bigo i fyny –  pryd bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi.”

Er ymdrechion y Llywodraeth, mae pryderon yn parhau

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £11m ar gyfer sicrhau bod prydau am ddim ar gael i blant Cymru yn ystod pob gwyliau ysgol hyd at Pasg 2021.

Y nod, yn ôl y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams oedd i “rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl yn y cyfnod hwn o ansicrwydd,”

Er hynny, yn ôl Siôn Thomas, mae’r pryderon yn parhau.

“Ges i sgwrs yn ddiweddar a nes i sylwi pa mor lwcus ydw i a fy nheulu –  mae ‘na bobl allan yna sydd ddim mor lwcus,” meddai.

“Yng Nghymru, mi ydan ni’n ffodus bod y Llywodraeth wedi penderfynu barhau i ddarparu cinio am ddim, ond eto mae ’na dal fylchau.”

“Os oes yna rywbeth fedrwn ni neud i helpu, yn enwedig hefo’r gymuned ym Methesda sydd mor agos beth bynnag, wel pam ddim?”

Siôn Thomas, ‘Just Mortgages’

“Rhywfaint o obaith”

“Dwi’n falch iawn bod busnes lleol fel Caffi Seren wedi cynnig rhywfaint o obaith i deuluoedd sydd yn dioddef sgil effeithiau Covid-19. Does neb eisiau gweld plant yn mynd heb fwyd,” meddai’r Cynghorydd lleol, Rheinallt Puw.

“Mae system gefnogol hefyd yn y Pentref, Cronfa Cefnogi Covid, sydd hefyd yn cynnig cymorth i deuluoedd. Rhaid cofio hefyd am wirfoddolwyr fuodd yn cefnogi drwy’r cyfnod clo diwethaf.

“Mae’r pandemig yma wedi dangos bod Cymuned Bethesda a Dyffryn Ogwen yn gefnogol gryf.”