Fe fydd miloedd o brydau bwyd yn cael eu darparu i blant gan fusnesau, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn Lloegr ar ddiwrnod cyntaf hanner tymor, wrth i weinidogion wynebu gwrthwynebiad chwyrn ynglŷn â’r mater.
Mae dwsinau o bobl o ystod eang o sefydliadau wedi bod yn helpu i ddarparu’r prydau, gyda’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock yn canmol eu hymdrechion “arbennig iawn” tra’n mynnu bod miliynau o bunnoedd eisoes wedi cael ei roi i neuaddau tref i helpu eu cymunedau.
Mae deiseb gan y peldroediwr Marcus Rashford, sydd wedi bod yn arwain ymgyrch i ymestyn prydau ysgol am ddim yn Lloegr dros gyfnod y gwyliau, bellach wedi denu 800,000 o enwau, gan roi pwysau ychwanegol ar y Llywodraeth i weithredu.
Llafur am orfodi pleidlais arall
Dywedodd Matt Hancock ei fod yn cytuno gyda “phwrpas” ymgyrch Marcus Rashford gan ychwanegu bod Credyd Cynhwysol wedi cynyddu £20 yr wythnos tra bod £63 miliwn eisoes wedi cael ei ddarparu gan y Llywodraeth i awdurdodau lleol fel eu bod yn gallu cefnogi pobl.
Ond fe awgrymodd y gallai help ychwanegol gael ei roi, yn sgil adroddiadau bod Boris Johnson yn ystyried cyflwyno newidiadau ar gyfer gwyliau’r Nadolig er mwyn osgoi gwrthryfel ymhlith aelodau ei blaid.
Yn y cyfamser mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi y bydd ei blaid yn gorfodi pleidlais arall yn y Senedd am y mater os nad yw gweinidogion yn gwneud tro pedol erbyn gwyliau’r Nadolig.
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Syr Bernard Jenkin hefyd wedi rhybuddio’r Llywodraeth y bydd yn rhaid ail-ystyried.